Am
Mae yna sawl taith i fyny ac o amgylch Copa’r Gogarth yn Llandudno.
Gallwch ddewis o blith:
Llwybrau Hanesyddol y Gogarth
Mae’r daith hon yn cynnig golygfeydd ysblennydd o Fae Lerpwl, mynyddoedd y Carneddau, Afon Menai ac Ynys Môn.
• Llwybr hir - 4.2 milltir (6.7 km)
• Llwybr byr - 3.2 milltir (5.2 km).
Llwybr Natur y Gogarth
Mae hon yn daith gylchol o amgylch y pentir, gan ddechrau a gorffen ar y copa.
Mae arwyddion clir ar hyd y llwybr a thaflen ar gael sy’n disgrifio ychydig o fywyd gwyllt y Gogarth.
• Llwybr hir - 4 milltir (6.5 km)
• Llwybr byr - 3.5 milltir (5.5 km).
Llwybrau Copa’r Gogarth
Mae’r teithiau hyn yn cynnig golygfeydd bendigedig o’r dref a thu hwnt. Mae arwyddion clir yn cyfeirio’r ffordd gyda logo Llwybr y Copa.
• Llwybr Gerddi Heulfryn - 1 millitr
• Llwybr y Fach - 1½ milltir
• Llwybr Igam-Ogam - 1 milltir.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Suitability
- Teuluoedd