Am
Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y pumed genhedlaeth o’r teulu Codman, gan ddefnyddio’r pypedau gwreiddiol a wnaed â llaw o froc môr oddi ar y traeth. Maent wedi dod â hwyl a chwerthin i bromenâd Llandudno am 160 o flynyddoedd.
Mae hon yn sioe draddodiadol yn llawn hwyl slapstic a berfformir mewn stondin streipiau coch a gwyn ger y fynedfa i Bier Llandudno.
Eisteddwch ar fainc, prynwch hufen iâ a mwynhewch Pwnsh a Jwdi hwyliog. Does dim byd gwell ar lân môr.
Gofynnir am gyfraniad gwirfoddol i gael bod yn bresennol. Bydd y cyfraniad yn gymorth tuag at dalu am gostau gweithredu er mwyn sicrhau dyfodol yr adloniant glân môr traddodiadol yma.
Caiff amseroedd y perfformiadau eu harddangos ar y cloc y tu allan i’r stondin.
Dylai ymweliadau gan grwpiau o ysgolion gael eu trefnu. Cysylltwch â 07900 555515.
Pris a Awgrymir
Ariennir perfformiadau gan roddion y gynulleidfa.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored