Castell tywod ar Traeth y Gogledd, Llandudno

Am

Gyda 2 draeth, Llandudno yw cyrchfan fwyaf Cymru. Wedi'i lleoli rhwng Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch mae dewis o Draeth y Gogledd a thwyni tywod Penmorfa.

Mae gan Landudno ei chyfoeth o atyniadau modern yn ogystal â'i hanes Fictoraidd ac Edwardaidd.

Traeth y Gogledd neu draeth Llandudno yw prif draeth y dref. Mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd hir a phromenâd eang ac yng nghysgod trawiadol pentir y Gogarth.

Pethau i’w gwneud ar Draeth Llandudno a’r dalgylch:

Does yna byth eiliad ddiflas ar draeth Llandudno!

Mae pob un o'r ffyrdd hen-ffasiwn gorau o fwynhau ein harfordir hardd ar gael yma:

•  Sioeau Punch a Judy - ffefryn gan deuluoedd ers dros 150 mlynedd
•  Reid ar gefn asyn ar y tywod
•  Hufen iâ ar y pier
•  Cerddoriaeth fyw ar y bandstand
•  Neu bendwmpian yn y pnawn yn ein cadeiriau cynfas.

Mae yna ardal chwarae, pwll padlo a byrbrydau ym mhen dwyreiniol y Promenâd.

Un o’r ffyrdd gorau o weld Llandudno yw o gwch. Camwch ar fwrdd y Sea Jay ar gyfer taith olygfaol ar y dŵr i weld Trwyn y Fuwch a'r Gogarth, neu daith bysgota môr hirach lle gallwch fwynhau’r arfordir ysblennydd yn y gobaith o ddal eich swper eich hun.

Neu gallwch gamu ar fwrdd un o'r cychod cyflym a gwibio heibio’r Gogarth a Thrwyn y Fuwch trwy ddistrych y tonnau.

Dim ond ychydig funudau ar droed yw Traeth Llandudno i ffwrdd o amwynderau’r dref gan gynnwys siopau, caffis a thoiledau.

Does dim achubwr bywydau ar y traeth.

A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!

Cŵn ar y traeth

Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.

Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.

Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cyfleusterau

Marchnadoedd Targed

  • Hwyl i'r Teulu
  • Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd

Nodweddion Darparwr

  • Atyniad Awyr Agored

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Traeth y Gogledd Llandudno

Glan y môr

North Shore, Llandudno, Conwy, LL30 2LG

Ffôn: 01492 596253

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd…

    0.21 milltir i ffwrdd
  2. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar un o’r profiadau teithiau preifat dan arweiniad…

    0.21 milltir i ffwrdd
  3. Ewch ar siwrnai siocled sy’n rhychwantu 5,000 o flynyddoedd. Gan ddechrau mewn cwt…

    0.23 milltir i ffwrdd
  1. Mae “Dod o hyd i Alys,” yn gêm ymdrochol sy'n cludo chwaraewyr i fyd hudolus Y Wlad Hud,…

    0.24 milltir i ffwrdd
  2. Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y…

    0.27 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r dollffordd 5 milltir o hyd ar agor drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig golygfeydd…

    0.29 milltir i ffwrdd
  4. Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau,…

    0.29 milltir i ffwrdd
  5. Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae…

    0.3 milltir i ffwrdd
  6. Caiff Taith Fawr y Gogarth ei weithredu gan fflyd fechan o fysiau hen ffasiwn i gludo…

    0.3 milltir i ffwrdd
  7. Yn Llandudno, mae Ultimate Escape yn her ystafell ddianc llawn hwyl. Allwch chi a’ch…

    0.3 milltir i ffwrdd
  8. Mae Trenau Tir Llandudno yn cynnig ffordd hyfryd o archwilio prydferthwch golygfeydd…

    0.3 milltir i ffwrdd
  9. Gadewch y car ac ewch ar antur ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.

    0.3 milltir i ffwrdd
  10. Dewch ar daith i gopa’r Gogarth! Mae’r daith, a gaiff ei chynnal bob awr, yn gwneud y…

    0.3 milltir i ffwrdd
  11. Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth…

    0.32 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....