Yn gryno. Un o’r trefi canoloesol gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Mae Conwy yn dref wirioneddol unigryw. Mae’r muriau hynafol mewn cyflwr arbennig o dda – y mwyaf cyflawn yn Ewrop – ac yn amgylchynu tref o strydoedd cul coblog, cilfachau a chorneli sy’n llawn dop o adeiladau hanesyddol. Ac nid dyna’r cwbl. Mae’r muriau’n ymledu o gastell grudiog, tywyll ei garreg sydd yn dal i greu awyrgylch gwirioneddol ganoloesol ac, wedi’r holl flynyddoedd, yn parhau i dra-arglwyddiaethu a chodi arswyd.
Roedd y castell, sy’n Safle Treftadaeth y Byd, yn ran allweddol o’r ‘gadwyn haearn’ o gestyll a adeiladwyd o amgylch Eryri yn y 13eg ganrif gan Edward I i ormesu’r Cymry. Mae’r golygfeydd o’r murfylchau yn ddigon o ryfeddod, saif mynyddoedd Eryri ar y naill llaw ac aber Afon Conwy ar y llall. O’r fan hon y cewch yr olygfa orau o’r dref a’r muriau’n ei hamgylchynu. Mae’r muriau dros dri chwarter milltir o hyd ac yn cynnwys 22 tŵr i warchod y dref.
Un o’r pethau y mae’n rhaid ei gwneud wrth ymweld â Chonwy yw cerdded ar hyd y muriau hyn, cyn mentro i’r strydoedd islaw i ymweld â mannau megis Plas Mawr (y tŷ trefol gorau o oes Elizabeth sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig) a’r Tŷ Lleiaf (a oes lle i chi yno?).
Mae atyniadau eraill yn cynnwys oriel gelf yr Academi Frenhinol Gymreig a Phont Grog Thomas Telford.
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn fan dechrau gwych ar eich taith drwy stori Sir Conwy. Mewn adeilad modern trawiadol sydd dafliad carreg o waliau tref hynafol Conwy, mae'n gartref i archif y sir, llyfrgell yr ardal, arddangosfeydd treftadaeth, caffi a chanolfan gelfyddydau cymunedol.
Mae bywyd môr Conwy yn bodoli ar hyd y cei – yn arbennig pan fydd Gŵyl yr Afon yn ei hanterth arforol. Ac yn ôl i ganol y dref mae cymysgedd unigryw o siopau i ddifyrru ac i ddenu – popeth o siocledwr a chigydd mawr ei wobr i orielau a siopau ffasiynol.
Yn y cyfamser yng Nghanolfan i Dwristiaeth Conwy mae arddangosfa o flasau lleol fel cofroddion i fynd adref yn cynnwys Halen Môn o Ynys Môn a gin â blas o ddistyllfa lleol Aber Falls.
Galwch heibio i ddarganfod rhywle i aros, i brynu tocynnau, i weld beth sydd ar gael i’w prynu fel anrhegion neu i ddweud su’mai wrth ein staff cyfeillgar.
Dod o hyd i lety yng Nghonwy a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.