Am
Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig.
Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Traeth Pensarn ac yn mynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr A548; trowch i’r chwith i’r A547; wrth i chi basio’r Clwb Golff trowch i’r dde i Ffordd Llan Sain Siôr; ewch yn eich blaen nes i chi gyrraedd rhes o garafanau sefydlog ar y chwith a throwch i’r chwith yma gan ddilyn y ffordd arw drwy fuarth y fferm. Trowch i’r dde yn Ffordd Tan y Gopa a throwch i’r chwith wrth yr ail fforch; i’r dde ar Ffordd Llanfair, A548, yna i’r chwith ar unwaith i gyfeiriad Ysbyty Abergele. Mae’r trac yn arwain drwy’r goedwig. Trowch i’r chwith wrth i chi ddod allan o’r goedwig gan gadw i’r dde ger y fforch hyd nes i chi gyrraedd ffordd y B5381, trowch i’r chwith yma ac yna i’r chwith eto. Bydd troad siarp i’r dde ger Fferm Fardre yn eich arwain ar hyd ffordd dawel i’r porthdy. Trowch i’r chwith yma, gan fynd i lawr yr allt serth i bentref Llan Sain Siôr. Mae’r ffordd o’r dafarn yn arwain yn syth i Abergele heibio’r chwarel lle mae arwyddbost am Bensarn o’r goleuadau traffig.
Cyfleusterau
Suitability
- Teuluoedd