Yn gryno. Mae pawb yn caru Llandudno.
Pwy allai anghytuno a hynny wrth fynd am dro ar hyd promenâd cain Llandudno, heibio’r gwestai lliw pastel a’r bensaernïaeth glan-môr wreiddiol, yn union fel y gwnaeth pobl oes Victoria? Y cyfan sydd ei angen i gwblhau’r llun yw parasol â ffriliau (ar gyfer y gwragedd) a het wellt (ar gyfer y dynion).
Yn wahanol i nifer o gyrchfannau eraill, nid yw Llandudno wedi newid rhyw lawer yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae’r dref yn gartref i’r pier (yr hiraf yng Nghymru), sioe Pwnsh a Jwdi a reidiau asynnod ar y traeth, a’r tu ôl i’r promenâd ceir strydoedd o siopau dan ganopïau hardd. Yn syml mae Llandudno yn glasur unigryw.
Mae’r harmoni hwn i’w ganfod hefyd yn naearyddiaeth tref Llandudno. Mae’r prif draeth, Traeth y Gogledd, wedi’i fframio’n berffaith gan ddau benrhyn, sef y Gogarth a Thrwyn y Fuwch. Yr ochr draw i’r Gogarth – gan deithio ar ffordd odidog Cylchdro’r Gogarth a gerfiwyd yn y clogwyni, dewch at ail draeth, sef Pen Morfa. Dyma lle y treuliodd Alice Pleasance Liddell, y ferch a ysbrydolodd ‘Alys yng Ngwlad Hud’, ei gwyliau pan oedd yn blentyn. Mae yna fap Llwybr Alice ac arweiniad cofroddion sy’n hawdd i’w defnyddio – dilynwch ôl pawennau’r Cwningen Gwyn o amgylch y dref. Galwch i mewn i Ganolfan Gwybodaeth i Dwristiaid Llandudno i brynu copi.
Mae ymddangosiad sydêt y dref yn gamarweiniol. Mae Llandudno yn llawn i’r ymylon o bethau i’w gwneud a’u gweld. Ewch am daith ar y dramffordd sydd ar arddull tramiau San Francisco neu teithiwch ar y car cebl Alpaidd i gopa Parc Gwledig y Gogarth i fwynhau’r golygfeydd godidog cyn diflannu i grombil y ddaear yn y mwyngloddiau copr hynafol.
Ewch i Amgueddfa Llandudno lle byddwch yn dod o hyd i gist drysor o bopeth lleol.
Dewch i ddarganfod dros 13,000 o flynyddoedd o hanes am Landudno o’r cyfnod cynhanesyddol a Rhufeinig i dwf Llandudno fel cyrchfan glan môr, neu ewch i’r Profiad Ffrynt Cartref gerllaw, sef amgueddfa fechan sy’n mynd a chi nol i’r Ail Ryfel Byd. I’r rheiny gyda dant melys mae gan Landudno Brofiad Siocled arbennig ar eich cyfer sydd wedi’i rhannu’n naw gwahanol ardal, pob un yn datgelu agwedd o hanes siocled.
Yn chwilio am antur? Beth am sgïo i lawr llethr sych y Gogarth, neu chwarae golff ar gyrsiau pencampwriaeth. Nol yn y dref mae hen Orsaf Cychod Achub Llandudno yn gartref newydd i’r ganolfan ddringo Boathouse Climbing Centre. Un o ganolfannau dringo diweddaraf Gogledd Cymru a fydd yn apelio at bob oed a gallu, yn ddechreuwyr ac yn hen bennau ar y grefft.
Mae un o orielau celf gyfoes gorau’r DU i’w chael y tu ôl i adeilad mawreddog o’r oes Edwardaidd. Mae Mostyn yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd sydd yn arddangos y gorau mewn celff a chrefft gyfoes o Gymru a thu hwnt. Mae caffi llawn steil a siop ffasiynol hefyd.
Dod o hyd i lety yn Llandudno a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.