Nifer yr eitemau: 1083
, wrthi'n dangos 801 i 820.
Conwy
Manwerthwr esgidiau a sefydlwyd ers dros 20 mlynedd wedi eu lleoli rhwng waliau canoloesol Conwy ar hyd arfordir braf Gogledd Cymru.
Llandudno
Lleolir yng nghyrchfan glan môr braf Llandudno, mae Cedar Lodge yn Westy/Gwely a Brecwast 3 Seren mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y dref.
Betws-y-Coed
Tŷ mawr urddasol yw Coedfa (lle i 8) sy’n edrych dros Ddyffryn Lledr ac i lawr am Bont Waterloo - lle delfrydol i dreulio gwyliau hunanarlwyo hamddenol yn harddwch Gogledd Cymru.
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Llandudno
Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a thrydanol ar ein trac ym Mhenmorfa.
Betws-y-Coed
Mae bwthyn hunan-arlwy glan yr afon Glan Dulyn ym Metws-y-Coed, Parc Cenedlaethol Eryri, yn ffinio ag Afon Llugwy, dim ond 4 munud ar droed o siopau, bwytai a bariau. Cysgu 4.
Conwy
Bwyty a chyfleuster bwyd i fynd sydd wedi ennill gwobrau sydd yn gweini bwyd Indiaidd ym mhentref hardd Deganwy.
Conwy
Y siop anrhegion hanesyddol fyd-enwog yng nghysgod Castell Conwy, sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o anrhegion hanesyddol fel cleddyfau ‘go iawn’, arfwisgoedd ac ati, neu boteli medd, gemwaith ac anrhegion tymhorol.
Betws-y-Coed
Erbyn heddiw Anna Davies yw manwerthwr annibynnol mwyaf yr ardal. Rydym yn gwerthu amrywiaeth fawr o eitemau yn cynnwys ffasiwn i ddynion a merched, pethau i’r cartref ac anrhegion.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Croeso i Dŷ Llety Branstone, tŷ tref Fictoraidd teuluol a adeiladwyd yng nghanol yr 1800au ac sydd â sawl nodwedd wreiddiol. Rydym yn cynnig llety cyfforddus a chyfeillgar gyda brecwast cartref yn defnyddio cynnyrch lleol.
Llandudno
Wedi’i enwi ar ôl yr impresario theatr lleol Will Catlin, dyma’r lle perffaith i ymlacio a dadflino.
Conwy
Mae Emma a Mark wedi bod yn gwneud siocled ers dros 10 mlynedd.
Rhos-on-Sea
Pethau casgladwy, anrhegion, gwydr, addurniadau, tlysau, canhwyllau - y cyfan ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos.
Llandudno
Mostyn yw un o orielau celf gyfoes gorau’r DU - byd o greadigrwydd 4 munud o’r traeth.
Conwy
Parc teuluol, cyfeillgar filltir o Gonwy ar gyfer carafanau a chartrefi modur yn unig, sy’n cynnig lleiniau mawr â lloriau caled ynghanol llonyddwch cefn gwlad Dyffryn Conwy a golygfeydd godidog Eryri.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Llandudno
Mae Summer Hill wedi ei leoli ar ffordd breswyl dawel, bum munud yn unig ar droed o ganol Llandudno a’r promenâd. Mae’r fflatiau yn lleoliad delfrydol i aros er mwyn archwilio Gogledd Cymru.
Betws-y-Coed
Croeso i North Wales Active. Rydym wedi ein lleoli ym Metws-y-Coed, Gogledd Cymru ac yn cynnig gweithgareddau antur preifat pwrpasol a chymysg bob dydd.