Am
Mae Summer Hill wedi ei leoli ar ffordd breswyl dawel, bum munud yn unig ar droed o ganol Llandudno a’r promenâd.
Mae’r fflatiau yn lleoliad delfrydol i aros er mwyn archwilio Gogledd Cymru.
Mae man parcio oddi ar y ffordd ar gyfer pob fflat.
Mae pedair fflat sydd â 4 neu 5 seren gan Croeso Cymru.
Mae’r Bay Tree yn fflat llawr gwaelod sy’n cysgu 2. Mae cegin llawn cyfarpar ac ystafell ymolchi gyfoes gyda chawod, a bath ar wahân. Mae gwres canolog nwy. Mae lle i eistedd yn yr iard fach. Mae croeso i gŵn.
Fflat llawr gwaelod yw Clematis sy’n cysgu hyd at 2 ac sydd â’i gardd gefn ei hun. Mae peiriant golchi a sychu yn y gegin, sydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol. Mae ystafell gawod gyfoes gyda gosodiadau modern. Mae croeso i gŵn.
Fflat un ystafell wely ar y llawr cyntaf yw Orchid, gyda lle i hyd at dri o bobl i gysgu. Yn y fflat fawr hon mae cegin â’r holl gyfarpar angenrheidiol gydag golygfeydd tuag at Y Gogarth.
Lleolir Camellia dros ddau lawr a hanner o’r llawr cyntaf ac mae lle i hyd at 4 gysgu mewn ystafell ddwbl ac ystafell gyda dau wely sengl. Mae ystafell ymolchi fawr foethus gyda bath a chawod ar wahân.
Croeso i blant dros 5 oed.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 4
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Mae'r fflat yn cysgu 2-4 | o£345.00 i £580.00 fesul uned yr wythnos |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Bed linen provided
- Ground floor bedroom/unit
- Gwres canolog
- Parcio preifat
- Pets accepted by arrangement
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Nodweddion Ystafell/Uned
- Gwres Canolog