Am
Y siop anrhegion hanesyddol fyd-enwog yng nghysgod Castell Conwy, sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o anrhegion hanesyddol fel cleddyfau ‘go iawn’, arfwisgoedd ac ati, neu boteli medd, gemwaith ac anrhegion tymhorol.
Fel arfer mae gennym tua deugain o wahanol gleddyfau i ddewis o’u plith ynghyd ag amrywiaeth o helmedau, gynnau a chyllyll. Mae yno amryw wahanol fathau o fedd ar gael hefyd i bobl eu blasu a’u prynu yn y siop.
Gall pobl brynu yn y siop ac ar-lein ar ein gwefan. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch ar gael drwy’r wefan ond rydym hefyd yn gwerthu anrhegion arbennig yn y siop yn unig.
Rhowch alwad i holi beth sydd gennym yn y siop os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol. Dylid nodi nad yw’r siop yng Nghonwy’n gwerthu gwisgoedd ffansi.
Cyfleusterau
Arall
- Derbynnir cw^n
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Mae pob ardal yn hygyrch i ymwelwyr ag anawsterau symudedd
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus