Yn gryno. Tref hardd, hanesyddol, ‘prifddinas’ Dyffryn Conwy gwyrdd.
Cliciwch yma i ddarganfod hanes a diwylliant Llanrwst gyda'r daith glyweled am ddim hon.
Y peth cyntaf i ddal eich sylw yn Llanrwst yw’r bont tri-bwa hardd dros Afon Conwy, sydd wedi’i phriodoli i Inigo Jones, y pensaer adnabyddus o’r 16eg/17fed. Mae’r bont yn arwain dros y dŵr croyw byrlymus i Tu Hwnt i’r Bont, tŷ hynafol hardd o’r 15fed ganrif sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hanes ar bob llaw yn y dref hon. Un o drysorau pennaf Capel Gwydir, Eglwys Sant Grwst, yw bedd-gist garreg drom honedig Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd yn y 13eg ganrif. Mae capel arall – Gwydir Uchaf – a saif yn y coed ar gyrion y dref yn enwog am y paentiadau cain ar ei nenfwd.
Mae’r enw ‘Gwydir’ i’w weld ym mhob man. Mae ymweliad â Chastell Gwydir, cartref teulu pwerus y Wynniaid, yn brofiad arbennig a llawn awyrgylch. Adeiladwyd y plasty Tuduraidd crand hwn, nad oes llawer ohonynt i’w cael yng Nghymru, ar safle hanesyddol pwysig. Gerllaw mae Coedwig Gwydir, lle ceir rhwydwaith o lwybrau cerdded ag arwyddbyst megis Taith Gerdded yr Arglwyddes Mair a fydd yn eich cyflwyno i hanes yr ardal a chymeriadau megis Dafydd ap Siencyn, ‘Robin Hood’ y goedwig. Ewch yn eich blaen ac i fyny a chyn hir byddwch yn cyrraedd dau lyn hyfryd a thawel, sef Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant.
Yn ôl yn y dref, mae amrywiaeth o siopau annibynnol yn gwerthu pob math o nwyddau, o lyfrau i fwydydd artisan ac arbenigol.
Dod o hyd i lety yn Llanrwst a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.