Nifer yr eitemau: 1083
, wrthi'n dangos 61 i 80.
Conwy
Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol flynyddol Conwy, sy’n para wythnos, yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid o fri rhyngwladol a sêr addawol cerddoriaeth glasurol.
Conwy
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Carneddau, gallwch gerdded adfeilion canoloesol, rhostir a mwynhau cân y frân goesgoch ac ehedyddion.
Llandudno
Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.
Betws-y-Coed
Mae’r daith hon yn cychwyn o Eglwys y Santes Fair yng Ngwydyr ac yn dringo trwy’r coetir nes cyrraedd Llyn Elsi lle ceir golygfeydd gwych tuag at Foel Siabod a’r Carneddau.
Llandudno
Dewch ar daith i gopa’r Gogarth! Mae’r daith, a gaiff ei chynnal bob awr, yn gwneud y mwyaf o olygfeydd y Gogarth gan fynd heibio tirnodau hanesyddol a golygfeydd godidog, gan oedi ar gopa’r Gogarth cyn dechrau ar ei siwrnai yn ôl i lawr.
Colwyn Bay
Oriel gelf a chrefft gymunedol yw The Bay Gallery, sy’n cael ei rhedeg fel elusen fach gan wirfoddolwyr lleol, gan gynnig cyfle i arlunwyr lleol arddangos a gwerthu eu gwaith. Mae’n cynnal dosbarthiadau a gweithdai celf wythnosol hefyd.
Llandudno
Arloeswyr gwefreiddiol sy’n asio pŵer hollalluog y gerddorfa roc gyda’u technoleg arloesol. Dyma London Symphonic Rock Orchestra yn cyflwyno caneuon roc eiconig yn y ffordd fwyaf trawiadol.
Conwy
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn elusen a’i nod yw creu pleser mewn celf weledol drwy arddangosfa a rhaglen addysg fywiog.
Llanrwst
Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst.
Corwen
Mae Coedwig Clocaenog yng nghanol Mynydd Hiraethog ac mae’n ardal 6,000 hectar (15,000 acer) o faint. Dyma gynefin un o boblogaethau olaf y wiwer coch yng Nghymru ac mae’n ardal hollbwysig ar gyfer y rugiar ddu brin.
Colwyn Bay
Mae North Wales Crusaders yn glwb proffesiynol rygbi’r gynghrair sy’n seiliedig ym Mae Colwyn. Dewch i gefnogi’r tîm yn y gêm leol hon.
Llandudno
Pan mae hoff fand roc Danny a Dino yn cynnal eu cyngerdd olaf erioed, maen nhw’n mynd i chwilio am y ddau docyn olaf un.
Trefriw
Dewch i ddarganfod yr awyr agored yn Nhrefriw ar ein llwybrau diddorol sydd wedi’u harwyddo ac sy’n eich arwain i fyny ac allan o’r pentref at y bryniau, y llynnoedd a’r afonydd hardd sydd o amgylch.
Llandudno
Bydd y band roc caled melodaidd modern, The Darker my Horizon, yn chwarae yn The Motorsport Lounge, Llandudno.
Llandudno
Gwahoddir chi i noson fythgofiadwy o ddirgelwch, lledrith a sgil.
Colwyn Bay
Yn yr addasiad llwyfan cyntaf o gampwaith comedi Stanley Kubrick, Dr Strangelove, mae Steve Coogan (Alan Partridge, The Trip, ac enillydd 7 BAFTA) yn chwarae pedair rôl wahanol.
Abergele
Youve been invited to Blackwell Highs school disco! Be careful though, your headteacher Miss Beauregard will be on duty and will be making sure you are not spiking the punch!
Miss Beauregard is known in the area for being one of the strictest…
Colwyn Bay
Camwch i mewn i’r peiriant amser ac ewch ar siwrnai i’r 1970au wrth i ni droi’r cloc yn ôl a dod â thân y disgo’n ôl yn fyw ar y llwyfan!
Conwy
Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu Celfyddydau Perfformio a Chelfyddydau Gweledol y rhanbarth drwy ddod ag artistiaid a grwpiau lleol ynghyd, er mwyn i bawb yng nghymuned Conwy gael elwa.
Abergele
Mae Ysgol Hud a Lledrith yn ôl! Estynnwch eich hetiau gwrach a ffyn hud ar gyfer hanner tymor mis Chwefror.