Am
Mae Canolfan Pensychnant yn gweithio gyda sefydliadau bywyd gwyllt i ddatblygu diddordeb yn y byd naturiol.
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Carneddau, gallwch gerdded adfeilion canoloesol, rhostir a mwynhau cân y frân goesgoch ac ehedyddion.
Heblaw am y golygfeydd, gallwch hefyd ymweld â thŷ Fictoraidd. Adeiladwyd gan Abraham Henthorn Stott, un o’r dynion cyfoethocaf ym Mhrydain yn yr oes Fictoraidd, mae’r tŷ nawr yn lety i ddarlithoedd bywyd gwyllt ac arddangosfeydd celf.
Mae’r tir yn agored drwy’r flwyddyn ond mae’r tŷ ynghau yn y gaeaf. Gallwch gysylltu â Chanolfan Pensychnant drwy ffonio 01492 592595.
Mae Canolfan Pensychnant yn cofnodi bywyd gwyllt yn yr ardal. Os oes gennych chi yr un diddordeb, byddai’r ganolfan wrth ei bodd yn clywed gennych. Ewch i'w gwefan: www.pensychnant.co.uk.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad