Yn gryno. Pentref sy’n cuddio yng nghanol y bryniau a’r coed – ac yn werth chweil ei ddarganfod.
I fwynhau’r golygfeydd gorau, teithiwch i Benmachno ar hyd y ffordd fynyddig gul o Ffestiniog sy’n plymio’n sydyn i unigedd Dyffryn Machno (os nad ydych yn hoffi uchder, dewiswch y ffordd isaf o gyfeiriad Betws-y-Coed). Tyfodd y pentref hwn o amgylch y bont dros Afon Machno, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, ac mae’r eglwys yn gartref i gasgliad arbennig o gerrig beddau Cristonogol cynnar.
Mae Penmachno yn ganolfan dda ar gyfer cerdded, marchogaeth ac, yn fwyaf arbennig, beicio mynydd, ac mae rhwydwaith o lwybrau golygfaol i feicwyr o bob gallu yng Nghoedwig Penmachno. Gall cerddwyr deithio ychydig filltiroedd ymhellach i gyfeiriad y gogledd i’r fan prydferth lle mae afonydd Machno a Chonwy yn cyfarfod a cheir cyfres o raeadrau dramatig. Mae Rhaeadr Conwy yn olygfa arbennig o hardd, yn disgyn i lawr y ceunant coediog serth cyn llifo i Ffos Noddyn ger Betws-y-Coed.
Mae Penmachno yn le gwych i bererinion. Yn y bryniau i’r gorllewin mae man sy’n gysegredig i ddiwylliant Cymru. Ffermdy carreg di-nod yw’r lleoliad hwnnw, ond mae iddo arwyddocâd symbolaidd enfawr. Tŷ Mawr Wybrnant, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, oedd man geni William Morgan tua’r flwyddyn 1540. Ef oedd yr esgob a gyfeithiodd y Beibl i’r Gymraeg, gan sicrhau dyfodol yr iaith. Mae’r ffermdy wedi ei adfer a’i ddodrefnu yn arddull yr 16eg ganrif, ac yn gartref i gasgliad o Feiblau – rhoddion o bob cwr o’r byd – yn cynnwys, wrth gwrs, cyfieithiad gwreiddiol 1588, sef ‘y llyfr pwysicaf o bosibl yn hanes y Gymraeg a’i llenyddiaeth’.
Dod o hyd i lety ym Mhenmachno a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.