Nifer yr eitemau: 1583
, wrthi'n dangos 1561 i 1580.
Abergele
Ni yw’r drydedd genhedlaeth o’n teulu ni i redeg y parc cyfeillgar, sydd wedi’i leoli ar arfordir Gogledd Cymru ger Abergele. Mae Llwybr Arfordir Cymru ar garreg ein drws ac mae’r traeth yn agos iawn hefyd.
Llandudno
Heb fod yn bell o Fae Llandudno, mae Gwesty Bodeuron yn darparu llety yng nghanol y dref hardd hon yng Ngogledd Cymru.
Conwy
Mae Siop Hufen Iâ Parisella yn cynnwys siop hufen iâ gyda man eistedd yn y cefn sy’n gweini diodydd poeth ac oer, crempogau, wafflau, cacennau a hufen ia gydag ychwanegiadau mewn dysgl, wedi’i leoli ar Stryd Fawr Conwy.
Trefriw
Bwthyn Old Rectory, bwthyn ar wahân sy’n croesawu cŵn yn Nhrefriw, Eryri. Lleoliad tawel, golygfeydd godidog dros Ddyffryn Conwy.
Rhos-on-Sea
Tamaid bychan o nefoedd y De ar arfordir Gogledd Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos, gyda gardd dawel ar gyfer bwyta a maes parcio mawr.
Conwy
Siop sy’n orlawn o bethau hardd i’r cartref ac amrywiaeth fawr o anrhegion. Chwilio am anrheg berffaith i rywun, neu rywbeth bach i chi’ch hun? Os felly dewch i weld beth sydd gennym i’w gynnig.
Llandudno
Yn agos at Drwyn y Fuwch, mae’n ddelfrydol er mwyn ymweld â’r theatr neu er mwyn crwydro’r ardal.
Llandudno
Rhandy mawr gyda dwy ystafell wely gydag ystafell ymolchi en-suite, sydd â lle i 4 o westeion a lle parcio oddi ar y ffordd.
Conwy
Pizza traddodiadol bendigedig wedi’u crasu â thân coed a dewis heb ei ail o jin a chwrw lleol, o fewn waliau hanesyddol Conwy.
Conwy
Bwtîg merched sy’n gwerthu dillad, ategolion ac anrhegion.
Towyn
Bwyd Americanaidd ffantastig rhesymol. Dewch draw i roi cynnig ar un o’n heriau bwyta byrgyr!
Llandudno Junction
Croeso i Castle Cabs (Conwy) Ltd. Rydym yn cynnig cludiant cyfleus, dibynadwy a moethus ledled ardal Gogledd Cymru a’r tu hwnt ar draws y DU.
Conwy
Busnes teuluol yng nghanol tref Conwy. Rydym yn gwerthu tlysau Clogau, yr aur prin o Gymru, a llawer o ddarnau o emwaith unigryw a hardd.
Llandudno
Y Kings Head yw’r dafarn hynaf yn Llandudno. Rydym yn agos at yr orsaf dramiau ac mae ein gardd gwrw yn llygad yr haul.
Betws yn Rhos
Mae wedi'i leoli mewn man sydd â dros 25 erw o gefn gwlad hardd Cymru o’i gwmpas ac mae llwybrau cerdded ar garreg ein drws. Rydym ni 3 milltir o Arfordir Gogledd Cymru a’r A55 sy’n ei gwneud yn rhwydd cyrraedd yr atyniadau gorau i gyd.
Conwy
Clustogau, canhwyllau, llestri, anrhegion a mwy, i gyd yn cyfleu naws y môr â’r wlad i’ch helpu chi i greu cartref hardd, cartrefol a chlud.
Penmaenmawr
Caffi codi arian gyda’r holl elw’n mynd i Warchodfa Anifeiliaid Eryri.
Conwy
Siop yn nhref hanesyddol Conwy sy’n gwerthu dillad dynion gan rai o’r dylunwyr gorau.
Colwyn Bay
Mae Canolfan Planhigion, Anrhegion a Chrefft Bodnant ger gardd enwog 80 erw Bodnant. Dychmygwch gymryd darn bach o Fodnant adref gyda chi i’w fwynhau!
Llanfairfechan
Safai Rhiwiau 160 o fetrau i fyny mewn dyffryn tawel rhwng Llanfairfechan ac Abergwyngregyn, llety traddodiadol o garreg mewn lleoliad delfrydol gyda golygfeydd godidog dros y Fenai ac Ynys Môn.