Yn gryno. Glan môr, llwybrau cerdded a machludau haul trawiadol.
Mae pentref Penmaenmawr ar arfordir y gogledd yn rhannu nifer o nodweddion â phentref cyfagos Llanfairfechan. Dyma sut yr oedd pentrefi glan-môr ers talwm, yn sydêt ac yn dawel, â phromenâd hir, pwll padlo a maes chwarae i blant, a rhes o gytiau traeth traddodiadol (heb anghofio’r parc sglefrfyrddio ar gyfer yr 21ain ganrif). Mae’r traeth eang a thywodlyd yn wych ar gyfer codi cestyll tywod a chwaraeon dŵr (mae yma glwb hwylio llewyrchus lleol), a gallwch fwynhau golygfeydd godidog ar draws y Bae i Sir Fôn ac Ynys Seiriol.
Mae tebygrwydd arall rhwng Penmaenawr a Llanfairfechan – mae’r ddau bentref yn ganolfannau arbennig o dda ar gyfer cerddwyr a theithwyr. Mae’r llwybrau cerdded sy’n arwain i’r bryniau yn croesi ffyrdd Rhufeinig a safleoedd hanesyddol, yn cynnwys caer o’r Oes Haearn, cylch cerrig y Meini Hirion a ‘ffatri fwyeill’ ryfeddol o Oes y Cerrig – mae archaeolegwyr wedi darganfod offer a gynhyrchwyd yma mewn lleoliadau gwahanol ar draws Prydain. Os ydych yn gyrru, cofiwch am y daith gyffrous dros Fwlch Sychnant, y llwybr hanesyddol i dref Conwy.
Mae mwy o hanes yn Amgueddfa Penmaenmawr. Bydd arddangosfa’r amgueddfa yn eich arwain ar daith trwy stori Penmaenmawr o amseroedd cynhanesyddol i’r diwrnod fel y mae hi. Mae yna gasgliad gwych o waith llaw o oes y cerrig a’r oes efydd a ddarganfuwyd ym Meini Hirion gerllaw, a gallwch ddarganfod pa mor llewyrchus oedd Penmaenmawr yn y 19eg ganrif ar ôl datblygu’r chwarel.
Ar gyrion y pentref fe welwch Barc Plas Mawr – parc prydferth a lle perffaith i ddianc o bob dim ac i ddarllen llyfr wrth y llyn. Y sylfeini, sydd bellach yn rhan o’r parc cyhoeddus, yw gweddillion y teulu Darbishire oedd yn berchen ar Chwarel Penmaenmawr.
Atyniadau a diddordebau eraill yn lleol yn cynnwys cwrs golff, yn ddigon heriol heb yr handicap/a’r golygfeydd anhygoel o’r môr i dynnu eich sylw oddi ar y gêm.
Dod o hyd i lety ym Mhenmaenmawr a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.