Nifer yr eitemau: 1545
, wrthi'n dangos 1121 i 1140.
Conwy
P'un a ydych chi'n dod i mewn am goffi neu frecwast i fynd, cinio gyda'r teulu, neu de prynhawn gyda'ch ffrindiau, mae gan L's fwydlen wych o fwyd a diod i'ch denu ar unrhyw adeg o’r dydd.
Conwy
Mae Castle View yn fwthyn pysgotwr dwy ystafell wely mewn lleoliad gwych yn wynebu’r castell gyda golygfeydd anhygoel o’n teras to preifat.
Rhos-on-Sea
Meicro-dafarn a siop boteli annibynnol yn Llandrillo-yn-Rhos, yn arbenigo mewn cwrw casgen.
Llandudno
Gwesty clyd sy’n agos at holl amwynderau’r dref, bariau a bwytai, y traeth, y pier a Phen y Gogarth.
Trefriw
Rydym yn arbenigo mewn cyrsiau dringo pwrpasol a chyrsiau sgrialu sy’n cyfuno cyfradd hyfforddwyr isel a hyfforddiant dringo pwrpasol.
Abergele
Ystod eang o anrhegion ac ategolion, gan gynnwys placiau, bagiau, sgarffiau, gemwaith (stocio Gemwaith Joma) bomiau bath, cardiau cyfarch a chasgliad o ddillad merched.
Cerrigydrudion
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Penrhyn Bay
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Llandudno a’r ardaloedd cyfagos.
Llandudno
Llety cartrefol, glân a chyfforddus gyda lle parcio oddi ar y stryd ar gyfer pob ystafell. O fewn pellter cerdded byr i’r ddau draeth, canol y dref, y promenâd a’r pier.
Llandudno
Fe hoffai Annamarie eich croesawu i Hafan-y-Môr, sy’n cael ei redeg gan y teulu.
Llandudno
Mae The Oasis, sy'n edrych dros y môr yn westy gwely a brecwast teuluol sydd wedi ennill gwobrau, ac bydd y gwestywyr yn edrych ymlaen at eich croesawu chi.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Llandudno
Roc glan môr traddodiadol gyda dewis eang o felysion a chofroddion Cymreig.
Deganwy
Cyfle i ddianc rhag y byd a mwynhau seibiant tawel a chyfforddus yn 51 Deganwy Beach. Mae ein fflat llawr gwaelod eang o fewn pellter cerdded i draeth a phentref Deganwy.
Llandudno
Mae map a chanllaw llwybr Alys yng Ngwlad Hud ar gael i'w prynu yn y Ganolfan Groeso. Archwiliwch Llandudno, a darganfyddwch beth yw’r cysylltiad ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwald Hud go iawn).
Conwy
Yn edrych allan dros dref gaerog, furiog Conwy, cafodd y bwthyn ei adnewyddu yn 2022. Llety moethus, taith gerdded 2 funud i mewn i Gonwy a gardd hyfryd i’w fwynhau.
Conwy
Mae Emma a Mark wedi bod yn gwneud siocled ers dros 10 mlynedd.
Betws yn Rhos
Mae wedi'i leoli mewn man sydd â dros 25 erw o gefn gwlad hardd Cymru o’i gwmpas ac mae llwybrau cerdded ar garreg ein drws. Rydym ni 3 milltir o Arfordir Gogledd Cymru a’r A55 sy’n ei gwneud yn rhwydd cyrraedd yr atyniadau gorau i gyd.
Llandudno
Mae Tŷ Llety Bodnant yn cynnig llety coeth a chyfoes mewn tŷ Fictoraidd hardd. Rydym wedi ein lleoli ar ffordd dawel, sydd ychydig funudau o gerdded o’r gorsaf drenau, traeth a chanol y dref.
Llandudno
Dewis gwych o randai glan y môr. 3 rhandy mawr (1 a 2 ystafell wely, yn cysgu 2-5) mewn adeilad Fictoraidd rhestredig ychydig lathenni o’r môr ar y promenâd.