Lleoliad Priodas Bodlondeb
Lleoliad Seremonïau Priodasol
Ffôn: 01492 576624
Ffôn: 01492 576624
Mae Bodlondeb yn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i leoli rhwng mynyddoedd mawreddog a thywod euraidd Conwy, gyda golygfeydd godidog dros yr aber tuag at Landudno a Deganwy. Wedi’i leoli tu allan i furiau tref Conwy, safle treftadaeth y byd gyda Chastell o’r 13eg Ganrif, harbwr cywrain ac amryw o fwytai a gwestai gerllaw, mae'n lleoliad gwych i gynnal eich digwyddiad arbennig.
Mae gennym hanes cyfoethog, a gallwch chi fod yn rhan o hynny wrth ddewis treulio eich diwrnod arbennig gyda ni. O briodas, i seremoni sifil neu seremoni enwi, pen-blwydd priodas neu adnewyddu eich addunedau priodas.
Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol ym 1877 ar gyfer Albert Wood, aelod o deulu gweithgynhyrchu llwyddiannus, a oedd yn boblogaidd gyda’r cyfoethog a’r enwog. Roedd yr ymwelwyr yn cynnwys Syr Edward Elgar a’r Prif Weinidog David Lloyd George, er bod rhaid i’r perchennog wrthod ymweliad y Frenhines Fictoria gan fod y tŷ yn rhy fach i letya ei chymdeithion.
Erbyn heddiw, cynhelir y seremonïau yn y cyntedd eang gyda nifer o nodweddion cywrain, gan gynnwys drysau gwydr lliw prydferth, lle tân carreg, grisiau pren wedi’i gerfio a galeri gyda ffenestri llusern hardd uwchben. Am ffordd o wneud eich mynediad!
Tu allan, mae’r gerddi godidog a’r parcdir amgylchynol yn creu cefndir syfrdanol i dynnu lluniau o'ch achlysur mawr.
Ar agor ar benwythnosau yn unig (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025) | ||
---|---|---|
Dydd Llun - Dydd Gwener | Wedi cau | |
Dydd Sadwrn - Dydd Sul | Agor |
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan…
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn sefydliad unigryw yng Nghymru. Mae’n elusen annibynnol…
Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng…
Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth…
Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…
Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…
Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…
Neidiwch ar fwrdd y Queen Victoria am fordaith i weld golygfeydd i fyny’r afon Conwy tuag…
Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…
Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y…
Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy,…
Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a…
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn wlypdir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o…
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant…
Trên Bach Penmorfa: gall hen ac ifanc ill dau fwynhau taith y tu ôl i locomotifau stêm a…
Mae Colin a Charlotte yn eich gwahodd chi i ymuno â nhw ar gyfer profiad gwinllan unigryw…