Christmas

Prif Gynigion

  1. Llyn Brenig

    Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig

    Llwybr Goleuadau Nadolig a Groto Hudol Siôn Corn

    Y Nadolig hwn ymunwch â ni yn Llyn Brenig ar gyfer gwledd arbennig i’r teulu.

    Bydd llwybr hudol o oleuadau yn arwain at Groto Siôn Corn lle bydd plant yn cyfarfod Siôn Corn ac yn sgwrsio gydag ef am eu breuddwydion a’u dymuniadau dros y Nadolig cyn derbyn anrheg.

    Bydd llawer o grefftau i’w gwneud ar hyd y ffordd gyda chyfle i liwio, gwneud cerdyn Nadolig ac addurn.

    £10 y plentyn

    Bydd Caffi Brenig ar agor ac yn gweini bwydlen yn null bwyd i fynd gan gynnwys bwyd poeth.

    Dydd Gwener 6 Rhagfyr, Sadwrn 7 Rhagfyr a Sul 8 Rhagfyr 2024.

    4pm – 6.30pm

     

    Rwyf wedi atodi rhai lluniau hefyd.

  2. St George's Christmas

    Gwesty St George

    Dathlwch yr Ŵyl yng Ngwesty St George yn Llandudno gyda’n prydau amser cinio a’n te prynhawn Nadoligaidd hyfryd a gaiff eu gweini bob dydd trwy gydol mis Rhagfyr. Mwynhewch awyrgylch gynnes a moethus wrth i chi flasu bwydlen dymhorol flasus wedi ei chreu gyda’r cynhwysion gorau. Mae ein cinio Nadoligaidd yn cynnig cyfuniad perffaith o brydau traddodiadol a chyfoes, tra bod ein te prynhawn yn cynnwys detholiad o ddanteithion melys a sawrus. P’un ai ydych chi’n cyfarfod ffrindiau, teulu neu gydweithwyr, mae Gwesty St George yn darparu’r lleoliad delfrydol i chi am brofiad Nadoligaidd cofiadwy. Archebwch nawr i wneud tymor y Nadolig eleni yn un gwirioneddol arbennig!

     

    Ffoniwch 01492 877544 neu anfonwch e-bost at events@stgeorgeswales.co.uk

  3. The Good Soap

    The Good Soap

    Mae casgliad Nadolig poblogaidd o sebonau a chynnyrch gofal croen The Good Soap yn ôl ar gyfer 2024! Mae’r holl gynnyrch, sy’n addas fel anrhegion i eraill neu i chi eich hun, yn 100% naturiol ac wedi eu cynhyrchu heb greulondeb a hynny â llaw yn Neganwy. Gallwch eu prynu’n unigol neu mewn casgliad a gellir eu dosbarthu i chi yn gyflym neu gallwch eu casglu’n lleol. Dewiswch o sebonau, hufennau i’r croen, balmau gwefus, hufennau sgrwbio a llawer mwy.

  4. Go Below

    Anturiaethau Tanddaearol Go Below

    Tynnwch y straen o siopa Nadolig a rhowch brofiad yn anrheg eleni!

    Mae Go Below yn cynnig anturiaethau dan ddaear sy’n mynd â chi yn ddwfn i grombil Eryri.

    Gallwch fynd ar y wifren wib, abseilio a dringo i lawr i’r dyfnderoedd eithaf i archwilio’r byd cudd sydd y tu ôl i’r mynyddoedd a darganfod hanes rhyfeddol treftadaeth lechi Cymru.

    Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy hen fwyngloddiau Eryri, beth bynnag fo’r tywydd! Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd anturus a’r rhai sy’n chwilio am adrenalin.

    Mae tocynnau anrheg ar gyfer y Nadolig ar gael nawr.

  5. Dunoon xmas

    Bwyty Next Door - Gwesty Dunoon

    Cynhesrwydd y gaeaf yn Next Door

     Wrth iddi nosi’n gynt ac wrth i’r tymheredd ostwng, bydd bwydlenni newydd y gaeaf ym Mwyty Next Door yn Llandudno yn dathlu’r hyn sydd orau am aros dan do yr adeg hon o’r flwyddyn.

     

    Mae’r prydau cynnes sy’n rhoi cysur yn gwneud defnydd gwych o’r hyn sydd gan y tir i’w gynnig wrth i’r niwl godi ac wrth i’r dail droi’n aur: cigoedd wedi eu coginio’n araf, ffrwythau’r hydref wedi eu mwydo a madarch gwych sy’n llawn blas. Mae bwyd da fel blanced sy’n rhoi cysur.

     

    Yn Next Door rydym yn gweini platiau bach, platiau mawr a phrydau i’w rhannu ochr yn ochr â rhestr win sydd fwy na thebyg y gorau yng Nghymru. Mae’n berffaith ar gyfer pryd gyda rhywun agos a dathliadau tymhorol.

     

    Mae ar agor ar gyfer prydau nos o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn ac am ginio o ddydd Mercher i ddydd Sul ac ar gael ar gyfer archebion grwpiau. Os oes gennych chi ymholiadau ffoniwch 01492 860787.

  6. Imperial - New Year

    Gwesty’r Imperial

    Gwyliau yn yr Imperial dros y Flwyddyn Newydd

     

    Siampên, cinio 7 cwrs a dawnsio tan yr oriau  mân. Gwesty’r Imperial ydi’r lle perffaith ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru dros y Flwyddyn Newydd! Mae ‘na gymaint o ddisgwyliadau ynghlwm â’r noson felly anghofiwch am y straen o drefnu eich dathliad eich hun, casglwch eich ffrindiau a’ch teulu at ei gilydd a dewch i ddathlu efo ni yn yr Imperial lle rydym wedi gwneud y gwaith caled i gyd drosoch chi. Ar ôl y parti, ewch i orffwys yn un o’n hystafelloedd cysurus a deffro ar ddiwrnod cyntaf 2025 i fwynhau brecwast hwyr blasus wedi’i baratoi’n arbennig ar eich cyfer gan ein cogydd.

     

    O £250 y pen (Telerau ac amodau’n berthnasol): https://www.theimperial.co.uk/new-year-break/

  7. Gwesty’r Imperial

    Gwesty’r Imperial

    Te Prynhawn Nadoligaidd yn yr Imperial

     

    Pa un a ydych yn dathlu achlysur arbennig, yn dal i fyny efo ffrindiau neu eisiau thoi trît bach i chi’ch hun cyn y Nadolig, Te Prynhawn Nadoligaidd yn yr Imperial ydi’r ffordd berffaith i wneud hynny. Mwynhewch ddewis o frechdanau bach ffres, sgons ffrwythau cartref cynnes gyda jam mefus a hufen a llu o ddanteithion melys eraill.  Wrth gwrs, gan ei bod ei bod yn Nadolig, byddwn yn cynnwys brechdan dwrci a llugaeron, tamaid o deisen Nadolig a mins pei cynnes!.  

     

    £2 y pen - ychwanegwch wydriad o Prosecco am £8 yn ychwanegol. https://www.theimperial.co.uk/afternoon-tea/

  8. Imperial - Dining

    Gwesty’r Imperial

    Cinio ym Mwyty Chantrey

     

    Dathlwch y Nadolig yn gynnar efo’ch anwyliaid gyda phryd blasus yn Chantrey’s,  ein bwyty rhosyn AA.  Mae ein Prif Gogydd James Williams yn ymfalchïo mewn defnyddio cynnyrch lleol, tymhorol ffres a chreu prydau bwyd Cymreig blasus ar gyfer y fwydlen. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys cig oen a chig eidion Cymreig o’r safon orau, bwyd môr ffres fel cregyn gleision a phenfras a dewis o gawsiau Cymreig. Mwynhewch noson o fwyd o’r safon uchaf mewn ystafell fwyta hardd gyda gwasanaeth o’r radd flaenaf a rhestr win gynhwysfawr.

     

    https://www.theimperial.co.uk/restaurants-in-llandudno/

     

  9. Royal Oak

    Gwesty’r Royal Oak

    Mae’r cyfan yn cychwyn ym mis Tachwedd wrth i deras awyr agored Y Stablau droi’n rhyfeddod gaeafol, a gyda’r coed traddodiadol wedi eu haddurno yn y Royal Oak a’r golau disglair mae yma hafan gysurus ar gyfer tymor y gaeaf. 

    Gyda bwyd y tu allan, carolau a chanhwyllau, nosweithiau parti, bwyd tymhorol blasus a choctels Nadoligaidd, mae gennym ni ddigon i’w ddathlu dros dymor yr Ŵyl!

    Mae Marchnad Nadolig Cynhyrchwyr Eryri a’r Fro, lle caiff cynnyrch lleol eu harddangos, yn dychwelyd ac mae’n berffaith ar gyfer penwythnos o brynu anrhegion.

  10. Mynydd Sleddog Chrstmas

    Mynydd Sleddog Adventures Ltd

    Profwch hud y Nadolig gydag Anturiaethau Mynydd Sleddog wrth i’w cŵn hysgi mawreddog fynd â chi ar daith sledio fythgofiadwy trwy dirweddau Hiraethog! Mynydd Sleddog Adventures Ltd

    Prynwch eich talebau reidiau hysgi rŵan a rhowch brofiad anarferol y byddant yn ei drysori am byth i’ch anwylyd!

    Beth am ei baru gydag un o’u cardiau wedi’u gwneud â llaw, tedis hysgi plwsh neu Noddwch Gi am anrheg sy’n parhau i roi - bydd 10% o bob pryniant yn mynd i SADRA (Cymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub Cymru)

    https://bit.ly/44ydx6o

  11. Christmas at Bodysgallen

    Neuadd a Sba Bodysgallen

    Bydd Neuadd Bodysgallen yn gwneud eich achlysur arbennig yn un gwirioneddol gofiadwy gyda bwydlenni Nadoligaidd atyniadol wedi eu gweini mewn amgylchedd cynnes a hanesyddol. Lleoliad delfrydol os am encil dros y gaeaf.

     

    O’r 1af o Dachwedd hyd at 28 Mawrth 2025 gallwch arbed 35% ar gyfraddau gwely a brecwast neu cewch 30% oddi ar wyliau gyda chinio, gwely a brecwast.

     

    Detholiad o ddigwyddiadau a allai fod o ddiddordeb; sgyrsiau amser cinio gan gynnwys pynciau o ddiddordeb lleol, ciniawau gyda themâu neu deithiau o amgylch yr ardd gyda the prynhawn.

    Beth am archebu’r Parti Nadolig gorau erioed, gwyliau 3 diwrnod yn cynnwys y gorau o’r traddodiadau Nadolig. Neu arhoswch ar gyfer ein parti Nos Galan gyda chonsuriwr a chasino llawn hwyl.

     Angen syniadau am anrhegion? Caiff tocyn anrheg ym Modysgallen ei werthfawrogi bob amser.

    Bydd croeso cynnes Cymreig yn eich aros yn Neuadd a Sba Bodysgallen.

  12. Stella Guest House

    The Stella Historic Llandudno Bed and Breakfast

    Treuliwch dymor y Nadolig yng nghanol hyfrydwch arfordirol tref hanesyddol Llandudno a hynny yng ngwesty gwely a brecwast hanesyddol The Stella! Yn The Stella mae’r Pier, y Promenâd a’r Gogarth ar garreg eich drws. Fe ailagorodd y llety gwely a brecwast hwn, sy’n croesawu cŵn, yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth ac mae’r Cynigion Ailagor yn parhau ar gyfer cyfnod y gaeaf. Archebwch ddwy noson yn olynol a chewch 50% oddi ar yr ail noson NEU archebwch dair noson yn olynol am bris dwy! 

Cynigion Eraill

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....