Am
“O’r Môr i’r Mynydd” –
Mewn lleoliad diarffordd ac wedi’i amgylchynu gan dros 200 aer o barcdir, 2 filltir i’r de o Landudno gyda golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri a Chastell Conwy, mae Neuadd Bodysgallen (adeilad rhestredig gradd 1) yn cynnig lletygarwch tŷ gwledig o’r radd flaenaf. Mae’r gerddi hyfryd yn cynnwys parterre o'r 17eg ganrif sy'n cynnwys gwrych sgwâr gydag arogl perlysiau, gerddi rhosod o fewn waliau a sawl ffug-dŵr.
Cewch fwynhau gwin da a gwledda ar ein bwydlenni llawn dychymyg sy’n cynnwys cynnyrch lleol o’r radd flaenaf a ffrwythau a llysiau organig wedi’u tyfu ar yr ystâd ar gyfer ein bwyty sydd wedi ennill 3 roséd yr AA, dan arweiniad y prif gogydd Abdalla El Shershaby. Gweinir Te Prynhawn Cymreig Traddodiadol yn y neuadd â phaneli derw, y llyfrgell, y parlwr i fyny’r grisiau, neu ar y teras ar ddiwrnod braf. Mae Te Prynhawn Cymreig Bodysgallen yn cynnwys casgliad o frechdanau, sgons wedi’u pobi’n ffres gyda hufen tolch a jam mefus, cacennau a phastai a dewis o de ffres. Mae Cinio Dydd Sul traddodiadol hefyd ar gael yn Neuadd Bodysgallen, gan gynnwys pryd tri chwrs a chanapés wrth gyrraedd. Caiff ein bwydlen Cinio Dydd Sul ei llunio’n wythnosol i gyd-fynd â’r adeg o’r flwyddyn ac i gynnal amrywiaeth.
Beth am ymlacio yn sba heddychlon Bodysgallen? Pwll nofio mawr, triniaethau harddwch aromatherapi, campfa a chaffi. Gall gwesteion y gwesty, aelodau’r sba ac ymwelwyr â’r sba archebu apwyntiadau i dderbyn triniaethau sba yn uniongyrchol dros y ffôn ar 01492 562500.
Mae Neuadd Bodysgallen yn lleoliad delfrydol ar gyfer Priodasau, Seremonïau Priodas a Phartneriaeth Sifil, Derbyniadau ac Achlysuron Teuluol, ac yn cynnig gwasanaeth proffesiynol i sicrhau diwrnod cofiadwy i bawb. O ddigwyddiadau llai mwy personol i ddigwyddiadau mwy ac wedi’u neilltuo.
Cynhelir digwyddiadau mewnol drwy gydol y flwyddyn i fodloni ystod o ddiddordebau, gan gynnwys sgyrsiau amser cinio, teithiau gardd, swperau thema a llawer mwy, a gellir eu harchebu’n uniongyrchol ar-lein neu dros y ffôn ar 01492 584466.
Dewch i fwynhau lleoliad hanesyddol a chlyd tŷ gwledig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Polisi Plant - croesawir plant dros 6 oed.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 7
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Prif Swit | £670.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Bwthyn i deulu | £700.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Bwthyn Rhagorol | £630.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Bwthyn Safonol | £360.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Rhagorol | £420.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Rhagorol gyda Olyga Eryri | £600.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Safonol | £275.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Mae’r cyfraddau ar gyfer ystafelloedd dwbl, ac yn cynnwys defnydd llawn o gyfleusterau’r Sba (gan eithrio triniaethau), a brecwast Cymreig pan fyddwch yn archebu’n uniongyrchol
Cyfleusterau
Arall
- Car Charging Point
- Credit cards accepted
- Evening meal available / cafe or restaurant on-site
- Ground floor bedroom/unit
- Licensed
- Parcio preifat
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
- Pets accepted by arrangement
- Restaurant/Café on Premises
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Sunday Lunch
- Swimming pool on site
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Arlwyo
- Te prynhawn
Cyfleusterau Darparwyr
- gwasanaeth golchi dillad dychwelyd mewn 24 awr
- Lolfa ar wahân i'r gwesteion
- Trwydded i gynnal priodasau sifil
- Wifi ar gael
Cyfleusterau Hamdden
- Bath Sba
- Cyfleusterau Iechyd/Ffitrwydd/Harddwch
- Pwll nofio
- Spa / Pwll Nofio
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cyfleusterau te a choffi ym mhob ystafell wely
- Ffôn ym mhob ystafell wely
- Ystafelloedd gwely llawr gwaelod ar gael
Season
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
Teithio Grw^p
- Coach parties welcome
TripAdvisor
Sgôr Teithwyr TripAdvisor:
- Service
- Value
- Cleanliness
- Location
- Ardderchog622
- Da iawn152
- Gweddol63
- Gwael25
- Ofnadwy13