Am
Croeso i’r Llandudno Bay Hotel, ein gwesty pedair seren sy’n cynnig y ‘waw ffactor’ o’r cychwyn cyntaf.
Ar ôl cyrraedd fe allwch chi ymlacio ar y cadeiriau haul neu’r cadeiriau siglo siâp wy gyda choctel a gwylio’r byd yn mynd heibio neu wrando ar sŵn y tonnau.
Os fedrwn eich temtio i mewn ar ôl i chi orffen eich coctels, mae’r tu mewn wedi’i ddodrefnu'n hardd ac mae’r awyrgylch yn gartrefol iawn o’r lolfa i’r ystafell fwyta. Gallwch ymlacio a mwynhau’r golygfeydd godidog o’r môr (a phwy a ŵyr, efallai y gwelwch chi ddolffin) tra bod ein tîm cyfeillgar yn goflau amdanoch chi.
Rhowch gynnig ar ein bwydlen hyfryd, neu beth am de prynhawn neu fanteisio ar ein gwasanaeth bar yn hwyr yn y nos?
Ond arhoswch, mae mwy! Mae gan westy’r Llandudno Bay fan gwefru cerbydau trydan.
Ac, yn...Darllen Mwy

Ac, yn well fyth, mae promenâd Llandudno ar garreg y drws. Croeswch y ffordd (cofiwch edrych i’r chwith ac i’r dde), ac mi fyddwch chi yno! Ewch am dro at y pier, dim ond 10 munud ac mi fyddwch chi yno.
Mi fydd ein sba ar agor cyn bo hir hefyd!
Darllen Llai