Am
Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy. Ni allwch golli’r tŷ lleiaf a byddech yn wallgof i beidio â bwrw’ch pen i mewn i gael golwg ar eich ffordd heibio. Mae’r trysor cenedlaethol hwn newydd gael ei adnewyddu ac mae’n werth ychydig funudau o’ch amser. Crëir argraff ar ein hymwelwyr gan awyrgylch arbennig iawn y tŷ ar y tu mewn - mae’r ymwelwyr yn mwynhau clywed hanes byr o’r eiddo hefyd.
Mae’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn 72 modfedd o led a 122 modfedd o uchder yn unig. Cafodd ei breswylio hyd at fis Mai 1900, ac ers hynny mae miloedd o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld ag ef a rhyfeddu arno. Yr unigolyn olaf a fu’n byw yn y tŷ oedd pysgotwr lleol o’r enw Robert Jones (a oedd yn digwydd bod yn 6 troedfedd a 3 modfedd) - roedd pâr oedrannus yn byw yno cyn Mr Jones. Efallai bod y tŷ yn fach ond mae’n hynod ymarferol - mae digon o le am wely sengl, lle tân a howld lo yno.
Pris a Awgrymir
Gweler y wefan am fanylion prisiau tocynnau.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Ar agor drwy apwyntiad y tu allan i'r oriau agor arferol
- Derbynnir Grwpiau
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus