Am
Mae traeth Morfa Conwy yn draeth tywod eang, ac ar lanw isel mae’n ffurfio rhan o draethau tywod a chloddiau cregyn gleision Bae Conwy. Mae’n addas ar gyfer pysgota, mae marina yno ac mae’r drws nesaf i gwrs golff. Mae digonedd o siopau, caffis a bwytai gerllaw yn nhref hanesyddol Conwy a’r castell yn ei gwarchod. Mae’r traeth yn lle da ar gyfer gwylio adar.
Mae’n draeth ardderchog ar gyfer gwneud cestyll tywod, rhoi traed yn y dŵr a mwynhau’r olygfa.
Does dim achubwr bywydau ar y traeth.
A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!
Cŵn ar y traeth
Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.
Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.
Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.
I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio