Am
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn sefydliad unigryw yng Nghymru. Mae’n elusen annibynnol sy’n cefnogi celf ac artistiaid Cymreig ac yma caiff celf ei chydnabod, ei chreu, ei harddangos a’i thrafod. Cafodd ei chreu yn 1882 a dyma’r unig Academi Gelf yng Nghymru gyda nawdd brenhinol. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn artistiaid proffesiynol gyda chysylltiad â Chymru, maent un ai wedi eu geni yng Nghymru, mae ganddynt linach Gymreig neu maent yn byw’n barhaol yma.
Fel canolfan ar gyfer rhagoriaeth artistig yng Nghymru, mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn arddangos ac yn gwerthu gwaith aelodau drwy raglen arddangos amrywiol. Hefyd mae’n cynnig lleoliad bywiog ar gyfer addysg a dosbarthiadau meistr sy’n agored i bob gallu ac mae yma ardal fanwerthu ar gyfer celf a chrefft wedi eu creu'n lleol.
Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch ac mae croeso i gŵn.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Mynediad | Am ddim |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Hygyrchedd
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Croesawgar i gŵn
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus