Am
Gwesty bychan ysblennydd ar lan y môr yn Llandudno - cyrchfan arfordirol Fictoraidd. Chwe ystafell wely mawr a moethus gyda golygfeydd godidog dros y môr.
Mae gwelyau maint brenin (un gyda dau wely sengl), ardal lolfa a thân nwy Fictoraidd yn yr ystafelloedd. Yn yr ystafell ymolchi marmor, mae yna faddon haearn bwrw dau-ben a chawod y gellir cerdded i mewn iddi. Mae cyfleusterau modern yn cynnwys Wi-Fi, aerdymheru, teledu Freeview, peiriant DVD, oergell a sêff, a pheiriant te/coffi. Mae’r ystafelloedd wedi’u haddurno’n foethus yn steil yr oes a fu, felly nid mewn steil modern syml. Mae lle parcio i bob ystafell yn y cefn. Nid oes lifft yn Osborne House.
Mae’r caffi ar y llawr gwaelod yr un mor ysblennydd â’r ystafelloedd, os nad yn fwy ysblennydd, gyda siandelïer crisial mawr, llenni felfed a gwaith celf gwreiddiol. Gyda’r nos, caiff 72 o ganhwyllau eu cynnau ar hyd y waliau. Mae’n gweini bwyd steil bistro gydol y dydd yn ogystal â byrbrydau, diodydd a choctels.
Mae’r holl gyfleusterau yng ngwesty’r Empire (150 llath i ffwrdd) ar gael i breswylwyr Osbourne House - pwll nofio dan do gydag ystafell sawna a stêm, campfa ardderchog, pwll trochi ac ardal i eistedd y tu allan, ynghyd â bwytai a bar.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 3
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Ystafell Ddwbl | £190.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Deulu | £190.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Twin | £180.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Credit cards accepted
- Evening meal available / cafe or restaurant on-site
- Licensed
- Parcio preifat
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
- Short breaks available
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Telephone in room/units/on-site
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Arlwyo
- Pryd nos ar gael
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Glan y môr
- Tŷ tref
Nodweddion Ystafell/Uned
- Cyfleusterau te a choffi ym mhob ystafell wely
- Ffôn ym mhob ystafell wely
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Season
- Pecyn Nadolig/ Blwyddyn Newydd Arbennig
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael