Nifer yr eitemau: 29
, wrthi'n dangos 21 i 29.
Betws-y-Coed
Taith fer ond egnïol o 13 milltir (21 km) gyda golygfeydd godidog yn cychwyn o Fetws-y-Coed ac yn mynd trwy bentrefi Llanrhychwyn a Threfriw ac ymlaen i Lanrwst gan ddychwelyd i Fetws-y-Coed.
Trefriw
Rydym yn gwmni hyfforddi beicio mynydd blaenllaw yng Ngogledd Cymru, ac rydym yn cael ein hadnabod ledled y byd am ddarparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y cleient.
Cerrigydrudion
Mae Cronfa Ddŵr Alwen yn llyn 900 erw - y llyn gwneud mwyaf yng Nghymru. Mae yna lwybr o gwmpas y llyn sy’n berffaith ar gyfer beicio, cerdded neu farchogaeth. Mae yna hefyd ganolfan sgïo dŵr.
Traws Eryri: Antur beicio mynydd 125 milltir newydd Conwy
Gan groesi calon Eryri arw, olygfaol, Traws Eryri yw llwybr beicio pellter hir mwyaf cyffrous yr ardal. Anghofiwch y ffordd, a dechreuwch ar yr antur.
Llandudno
Taith amrywiol o amgylch tref glan môr Fictoraidd Llandudno a’r Gogarth ac yn ôl Ddeganwy. Tua 15 milltir (24 km) o hyd gyda nifer o rannau sy’n codi’n raddol.
Llandudno Junction
Mae’r daith hon yn croesi aber Conwy ar hyd lonydd a phentrefi tawel Dyffryn Conwy o Gyffordd Llandudno i Gonwy, Rowen, Henryd ac yn ôl i Gyffordd Llandudno. Mae’r daith tua 14 milltir (22.5 km) o hyd.
Cerrigydrudion
Taith gron, hawdd ei dilyn, sydd wedi’i harwyddo, o amgylch Cronfa Ddŵr Alwen, tua 7.5 milltir (11 cilomedr), o hyd. Mae Llwybr Alwen yn eich arwain drwy’r goedwig ac ar hyd y glannau ac i fyny at rostiroedd Mynydd Hiraethog.
Abergele
Cylchdaith tua 20 cilomedr o hyd yn bennaf ar hyd lonydd gwledig, ond mae rhai darnau ar ffyrdd geirw ac oddi ar y ffordd ar lwybrau yn y goedwig, yn dechrau o faes parcio Traeth Pensarn.
Betws-y-Coed
Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i ystod eang o weithgareddau a bywyd gwyllt.