Am
Lle mae Eryri yn cwrdd â'r môr, mae gan berl Gogledd Cymru, sef Llanfairfechan, drysor o gwrs golff.
Mae cwrs golff parcdir Llanfairfechan yn cynnig cefnlen fynyddig fendigedig, golygfeydd gwych dros y Fenai i Ynys Môn, a gallwch chwarae dwy rownd o naw twll o wahanol diau gyda rhai lawntiau ychwanegol. Un nodwedd unigryw yw bod pob un o’i ddeunaw twll yn rhai par 3. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn golygu ei fod yn gwrs ergydio a phytio gan fod saith o'r tyllau yn rhai dros 200 llath o hyd, gyda digon o droi a throelli ac er ei fod yn fyr, bydd yn rhaid i chi daro amrywiaeth o ergydion er mwyn cael sgôr dda. Mae angen cryn dipyn o sgiliau pitsio i ymdopi â llawer o’r banciau o flaen neu y tu ôl i rai o'r lawntiau. At ei gilydd, mae'r cwrs yn rhoi prawf heriol o gywirdeb dreifiau’r golffiwr. Y nodweddion gorau, mae'n debyg, yw ei gyflwr gwych drwy gydol y flwyddyn gan ei fod yn mwynhau hinsawdd mwyn trwy’r rhan fwyaf o'r flwyddyn.
Rydym yn glwb aelodau sy’n caniatáu ymwelwyr ar ôl talu ffi lawntiau fechan ar ddiwrnodau pa nad oes cystadleuaeth.
Mae gennym ystafelloedd newid bychan, bar trwyddedig yn amodol ar amseroedd agor neu drwy drefniant ymlaen llaw, bwyd ar gael trwy drefniant ymlaen llaw, lawnt bytio.
Cyfleusterau
Arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
- Toiledau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael