Am
Fe gewch hyd i Glwb Golff Penmaenmawr ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri yn swatio wrth droed Bwlch Sychnant mewn lleoliad godidog rhwng y mynyddoedd a’r môr. Mae’r golygfeydd ysblennydd o Ynys Seiriol, Aber Afon Conwy a’r Gogarth yn gwneud Clwb Golff Penmaenmawr yn un o’r clybiau golff gyda’r golygfeydd gorau ym Mhrydain.
Mae’r nawiau blaen a chefn arbennig wedi eu creu gan diau bob yn ail y cwrs naw twll, sy’n gwneud cwrs Penmaenmawr yn her i ymwelwyr ac aelodau fel ei gilydd, beth bynnag eu gallu. Mae nifer o leiniau llwyfandir a waliau sychion, sy’n rhannu rhai o’r ffyrdd teg, yn darparu heriau ychwanegol ac yn gofyn i bob golffiwr fod yn sicr o bob ergyd. Mae Penmaenmawr yn enwog yn lleol am ansawdd y griniau, y mae eu tyllau cynnil yn brawf diddorol ar allu pytio unrhyw un - os ydych yn ansicr, tybiwch fod y griniau yn disgyn i’r môr.
Byddwch wastad yn cael croeso cynnes yn y tŷ clwb. Mae Pen’s 19th Hole yn gweini prydau blasus a chwrw go iawn sydd wedi ennill gwobr CAMRA.
Cyfleusterau
Arlwyo
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio