Am
Mae Clwb Golff Abergele’n glwb golff o ansawdd uchel sy’n agored i bawb. Dywedir mai dyma un o’r cyrsiau harddaf yng Nghymru o dan gysgod mawreddog Castell Gwrych (cartref ‘I’m a Celebrity... Get Me Out of Here’ yn 2020 a 2021), ac mae’n ffefryn gan yr aelodau a’r ymwelwyr a ddaw o bedwar ban byd.
Bydd pawb yn mwynhau ein cwrs golff bendigedig, boed yn golffiwr profiadol neu’n ddechreuwr, ac mae gennym wahanol dïau i bobl o bob gallu.
Yma yng Nghlwb Golff Abergele rydyn ni’n fwy na dim ond cwrs golff. Estynnwn groeso cynnes i westeion a’r gymuned leol ddod i’n Clwb lle gallant fwynhau’r bwyd blasus a chael diod yn y bar.
Rydym yn adnabyddus am ein staff ac aelodau croesawgar a chlên ac fe deimlwch chi’r naws deuluol o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd y Clwb. Ein nod yw bod gwesteion, cymdeithasau a grwpiau, p’un a ydynt yn chwarae golff neu’n dod am fwyd a diod yn y Clwb, yn cael cystal amser â phosib.
Mae yno fwydlen fendigedig yn y Bistro ac mae’r tîm cyfeillgar y tu ôl i’r bar bob amser wrth law i chi gael diod haeddiannol.
Archebu
I gadw’ch lle ar gyfer gêm bedair pêl ewch i www.abergelegolfclub.co.uk, clicio ar book now ac yna dewis visitor booking.
Os hoffech chi gadw lle ar gyfer grŵp o ddeuddeg neu fwy, ffoniwch y swyddfa ar 01745 824034 a dewis opsiwn 3 neu e-bostiwch admin@abergelegolfclub.co.uk. Cynigir gostyngiadau i gymdeithasau sy’n archebu mewn grwpiau o fwy na deuddeg, a chodir blaendal na chaiff ei ad-dalu o £10 y pen i gadarnhau eich lle.
Os hoffech chi archebu bwyd wrth ddod am gêm gyda chymdeithas, cysylltwch â’r arlwywyr o leiaf saith diwrnod cyn diwrnod eich gêm. Mae ganddynt ddewis da o brydau a byrbrydau at ddant pawb, a gellir addasu yn ôl anghenion diet.
Mae’n rhaid talu gweddill unrhyw gyfrif yn llawn y diwrnod cyn chwarae.
Mae yno fygis i’w llogi ond nifer cyfyngedig sydd ar gael, a dylid trefnu hyn gyda’r siop o flaen llaw rhag i chi gael eich siomi. Gallwch eu ffonio ar 01745 824034 a dewis opsiwn 2.
I archebu’r ystafell ddigwyddiadau, e-bostiwch reception@abergelegolfclub.co.uk; neu ffoniwch y swyddfa ar 01745 824034 a dewis opsiwn 3.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Bwyty
- Gwasanaeth arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Cawodydd
- Cyfleusterau cynadledda
- Gwersi/cyrsiau ar gael
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel profiad - dechreuwr
- Lefel profiad - uwch
- Llieiniau ar gael
- Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
- Yn derbyn partïon bysiau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Darperir mannau parcio penodol ar gyfer gwesteion ag anableddau
- Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i bob ardal
- Mae pob ardal yn hygyrch i ymwelwyr ag anawsterau symudedd
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau