Am
Llwybr beicio ar y ffordd, 15 milltir o hyd (24 cilomedr) gan deithio ar hyd yr arfordir o Fae Colwyn i dref Llandudno a’r Gogarth - ac yn ôl.
Gan ddechrau o Ffordd Llanrwst ym Mae Colwyn, ewch i lawr yr allt i Ffordd Conwy ac ar hyd Ffordd Dinerth. Trowch i’r chwith ger garej betrol Shell gan basio Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos. Ewch yn eich blaen i fyny allt Trwyn y Fuwch ac yna i lawr i gyrchfan glan-môr Fictoraidd Llandudno ac ar hyd y Promenâd. Ewch heibio Gwesty’r Grand ar odre’r Gogarth gan fynd yn eich blaen i fyny’r allt ar y dde, heibio Eglwys Sant Tudno, a throi i’r dde ger y gyffordd siâp-T. Dilynwch y ffordd at waelod yr allt heibio gwesty’r Empire gan gadw ar y chwith i’r Promenâd a dilynwch yr un daith yn ôl i gyfeiriad Bae Colwyn.