Am
Siop esgidiau annibynnol yn nhref hardd Llandudno yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y siop yn wreiddiol ym 1971 ac mae wedi bod yn gwerthu esgidiau o safon i bobl Llandudno ers hanner can mlynedd bron.
Yn 2019 cymerodd Hal Holmes Pierce o Elevate Your Sole yr awenau yn y siop esgidiau wych hon. Mae Hal yn falch o’i dîm ymroddgar ac o gynnig y brandiau mwyaf safonol o esgidiau, gwasanaeth mesur arbenigol a gwasanaeth cwsmer heb ei ail. Mae ffefrynnau’r cwsmeriaid yn cynnwys Skechers, Rieker, Remonte, Josef Seibel, Fitflop, Fly London, Gabor a Waldlaufer.
Ar gyfer y plant mae staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i fesur eu traed ac i helpu i ddod o hyd i’r pâr perffaith o esgidiau ar gyfer yr ysgol neu amser hamdden gyda Start-Rite neu Skechers.
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Mae pob ardal yn hygyrch i ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus