Am
Mae’r llwybr 33 milltir ar draws Sir Gonwy yn rhan o Daith Pererin Gogledd Cymru, llwybr hanesyddol 130-milltir o hyd sy’n mynd o Abaty Dinas Basing i Ynys Enlli. Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau traddodiadol y pererinion canoloesol a fyddai’n ymweld â ffynhonnau sanctaidd, eglwysi a chysegrfannau’r seintiau Celtaidd ar hyd y ffordd.
Ymgollwch yn hanes barddoni a phererindota wrth i chi ddilyn ôl troed y pererinion canoloesol gan gychwyn ar daith gyfareddol ar draws cefn gwlad hudolus Sir Gonwy.
Mae llwybr Taith Pererin Gogledd Cymru yn mynd â chi drwy dirwedd sydd gyda’r mwyaf prydferth a chyfareddol yng Nghymru.
Mae yna lawer o safleoedd cynhanesyddol, cysegrfannau ac eglwysi canoloesol o fewn tafliad carreg i bentrefi gwledig gogoneddus sydd â llefydd gwych i letya ac i ymlacio dros bryd o fwyd.
Os hoffech ddarganfod mwy am yr hanes cyfoethog a’r cymeriadau chwedlonol sy’n gysylltiedig â’r pentrefi ar hyd Llwybr Pererin Gogledd Cymru yng Nghonwy, ewch i ymweld â’r Canolbwyntiau Hanes:
Llansannan: Eglwys Sant Sannan
Llangernyw: Eglwys Sant Digain
Eglwysbach: Eglwys y Santes Fair
Rowen: Capel Seion
Llangelynnin: Eglwys Sant Celynnin.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd