Am
Ar safle Gerddi Dŵr Conwy mae tri llyn pysgota sydd â chyflenwad da o bysgod breision. Mae golygfeydd trawiadol o’r llynnoedd hyn i gyfeiriad Dyffryn Rowen ac mae coetir naturiol a thir amaethyddol o’u cwmpas. Mae nifer o’n pysgotwyr cyson yn mynnu mai ni yw Pysgodfa Orau Gogledd Cymru. Mae gan bob un o’n llynnoedd begiau pysgota pwrpasol gyda llwybrau’n arwain at yr holl begiau pysgota. Mae mynediad i bobl anabl o’n maes parcio sydd ddim ond 30 metr o un o’n llynnoedd a hefyd mae toiledau newydd ar gael wrth ymyl y llynnoedd.
Mae siop offer pysgota ar y safle ac ynddi ddewis da o offer ac abwyd sylfaenol fel cynrhon, mwydod, peledi ac abwyd. Lluniaeth ysgafn ar gael o’r siop ac os oes angen rhywbeth mwy sylweddol arnoch mae’r Tŷ Crempog Iseldiraidd a’r Bwyty’n gwneud crempogau melys a sawrus a dewis o brydau arbennig o 11am.
Y penderfyniad anoddaf fydd dewis i ba lyn i fynd gyntaf. Mae gan y Llyn uchaf 18 peg ac mae tua 5-6 troedfedd o ddyfnder gydag ynys yn y canol sy’n ddelfrydol ar gyfer pysgota polyn neu i ddysgwyr. Mae cerpynnod, bremiaid, ysgretennod, barfogion ac orffiaid aur hyd at 4 pwys yn y llyn.
Rhoddwyd pysgod yn y Llyn Canol dros 15 mlynedd yn ôl felly mae’r pysgod wedi cael digon o amser i dyfu. Mae’n 2 erw o ran maint a hyd at 10 troedfedd o ddyfnder sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol i bysgota ynddo ar hyd y flwyddyn. Mae cerpynnod 24 pwys a mwy, byrbysgod, carpiaid gloyw, bremiaid, ysgretennod, orffiaid aur, barfogion, cochgangod, cochiaid a rhuddbysgod, felly mae rhywbeth i bawb.
Mae’r Llyn Isaf mewn dyffryn bach gyda choed o’i gwmpas sy’n ei wneud yn lle hynod o braf i dreulio diwrnod o bysgota yn yr haf. Mae amrywiaeth o bysgod ynddo sy’n pwyso hyd at 6 phwys.
Offer pysgota gorfodol:
Trwydded Bysgota o swyddfa’r post neu ar-lein o www.environment-agency.gov.uk/rodlicence
Trwydded bysgota undydd, ar gael o’n siop offer ar y safle.
Mat dadfachu, rhwyd lanio, bachau heb adfachau a gwialen a lein o faint addas.
Cyfleusterau
Arall
- Café on premises
Arlwyo
- Gwasanaeth arlwyo
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn derbyn partïon bysiau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Mae pob ardal yn hygyrch i ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod