Nifer yr eitemau: 1087
, wrthi'n dangos 641 i 660.
Betws-y-Coed
Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n llifo drwy hafn gul nes creu rhaeadr arbennig iawn gyda choed ffawydd, bythwyrdd a bedw yn y cefndir.
Conwy
Taith o amgylch Mynydd y Dref (Conwy) ar lwybrau glaswelltog, traciau a ffyrdd eilaidd, gyda golygfeydd godidog.
Conwy
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan ddeheuol Moryd Conwy, ac mae’n gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar ac ieir bach yr haf.
Llandudno
Ewch amdani ac ymunwch yn ysbryd y carnifal, wrth i Syrcas Gandeys, yr arweinwyr adloniant syrcas gwefreiddiol, heb eu hail, gyflwyno Carnifal Arbennig 2025 gyda balchder!
Colwyn Bay
Mae Mr Burton yn adrodd stori wir y berthynas rhwng yr ysgolfeistr o Gymru, Philip Burton a bachgen ysgol ifanc gwyllt o’r enw Richard Jenkins.
Penmachno
Mae Canolfan Marchogaeth Gwydir wedi’i leoli yng nghanol golygfeydd ardderchog Parc Cenedlaethol Eryri ac maent yn cynnig teithiau marchogaeth o amgylch coedwig Gwydir.
Llandudno
Cyfres o lwybrau cerdded, o bellter amrywiol, i fyny ac o amgylch copa’r Gogarth yn Llandudno.
Trefriw
Bwthyn cerrig clyd, traddodiadol ar lannau hyfryd Llyn Crafnant gyda golygfeydd a lleoliad arbennig.
Conwy
O fewn muriau tref gaerog ganoloesol Conwy y mae The Jackdaw, bwyty gan y Cogydd Nick Rudge.
Betws-y-Coed
Cafodd Caffi Conwy Falls ei ddylunio gan Syr William Clough Ellis i gyd-fynd â saernïaeth Portmeirion. Mae wedi’i leoli ym Mharc Coedwig Conwy Falls sydd bron i 10 erw o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Llandudno
Siop esgidiau annibynnol yn nhref hardd Llandudno yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y siop yn wreiddiol ym 1971 ac mae wedi bod yn gwerthu esgidiau o safon i bobl Llandudno ers hanner can mlynedd bron.
Conwy
Bwyd cyflawn, salad a bar coffi yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Abergele
Cartref eitemau pren wedi ei uwchgylchu a’i adfer i’r cartref a’r ardd.
Llandudno
Mae The Loaf Coffee & Sandwich Bar yn arbenigo mewn coffi arbennig, cacennau cartref a bwyd hyfryd mewn awyrgylch cynnes a chartrefol.
Llandudno
Teithiau gwylio adar dan arweiniad drwy gydol y flwyddyn. Teithiau personol i un/dau o bobl sy'n archebu gyda'i gilydd, a grwpiau bach.
Llandudno
Rhoddion a nwyddau o ansawdd o ganol Cymru. Lleolir ar brif stryd siopa Llandudno.
Llandudno
Rydyn ni’n fecws bara go iawn (surdoes) llawn steil yng Nghraig-y-don, Llandudno.
Llandudno
Wedi’i lleoli yn ardal Craig-y-Don, Llandudno, mae Givealittle yn siop anrhegion, cardiau a gemwaith bach, unigryw, cyfeillgar.
Betws-y-Coed
Mae bythynnod gwyliau hunanarlwyo Benar ar fryn hardd a thawel, o fewn pellter cerdded o bentref Penmachno a dim ond tair milltir o Fetws-y-Coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Cymru.
Llandudno
Rhandy Gwyliau Seashells Seaside yn llety bach cartrefol gyda dwy ystafell wely, ar y llawr gwaelod, gyda nifer o gysylltiadau personol drwyddi draw, a gall hyd at bedwar gwestai aros yno.