I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 1085
, wrthi'n dangos 41 i 60.
Cerrigydrudion
Mae Llwybr Brenig yn mynd o amgylch Llyn Brenig drwy’r goedwig ac ar hyd y glannau. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer teuluoedd sydd am gerdded neu feicio, ac mae tua 9.5 milltir (15 cilomedr) o hyd.
Pentrefoelas
Pum cylchdaith o wahanol hyd o bentref Pentrefoelas, sy’n enghraifft wych o bentref 'stad, sy'n cymryd ei enw o'r Foel-las, bryn bychan gerllaw lle bu unwaith gastell canoloesol cynnar.
Llandudno
Mae Gwesty’r Imperial sydd wedi ennill gwobrau, gwesty Pedair Seren mwyaf Llandudno, yn sicrhau ceinder a rhagoriaeth a golygfeydd trawiadol ar draws y bae o'i leoliad canolog ar y Promenâd.
Betws-y-Coed
Mae’r llwybr hwn drwy Goedwig Gwydyr yn datgelu golygfeydd godidog o fynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau.
Llandudno
Bydd Cyngor Tref Llandudno yn cofio 80 o flynyddoedd ers datgan Buddugoliaeth yn Ewrop drwy oleuo ffagl ar bromenâd Llandudno am 9.30pm.
Llandudno
Mae sioe hud Scoop yn cyfuno hudoliaeth, comedi, jyglo, rheoli’r meddwl a pherygl er mwyn creu profiad adloniant bythgofiadwy.
Llandudno
Mae gwely a brecwast Bryn Derwen mewn lleoliad delfrydol ar dir gwastad wrth droed y Gogarth ar rodfa goediog ddistaw rhwng dau fae Llandudno.
Penmachno
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad.
Penmachno
Llwybrau Penmachno yw un o ganolfannau beicio mynydd gorau Gogledd Cymru. Mae yma ddau lwybr - Dolen Machno (19cilomedr) a Dolen Eryri (11 cilomedr) - gallwch eu beicio’n unigol neu fel clamp o daith hir 30 cilomedr.
Llandudno
Ar ôl hir ymaros, mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis yn dychwelyd i’r llwyfan yng ngwanwyn 2025 gyda’i thaith ‘Big Night In’.
Penrhyn Bay
Mae traeth Bae Penrhyn ar Lwybr Arfordir Cymru ac mae yna lwybrau arfordirol hefyd i Fae Colwyn neu Fae’r Gogarth gerllaw.
Llandudno Junction
Bwyd â gwir flas, yn uniongyrchol gan y cynhyrchwyr. Gallwch grwydro o amgylch y stondinau i brynu eich llysiau ffres, cig lleol, cawsiau, jam, picl a llawer mwy!
Llandudno
Ymunwch â ni yn The Magic Bar Live ar gyfer Noson Gomedi ‘Up for a Laugh - Vol 4’. Artistiaid i’w cadarnhau.
Colwyn Bay
Mae EggChaser yn falch o gyflwyno Rygbi 7 Bob Ochr Gogledd Cymru, sy’n dod i Fae Colwyn ym mis Gorffennaf!
Old Colwyn
Bydd Bae Colwyn yn croesawu Tref Dinbych i Arena 4 Crosses Construction yng ngêm cynghrair JD Cymru North.
Conwy
Ffair Siarter Frenhinol 700 mlynedd oed gyda stondinau hadau a phlanhigion, mêl a marchnad ffermwyr.
Conwy
Digwyddiad canŵio i fyny’r afon yw’r Conwy Ascent sy’n manteisio ar y llanw gan ddechrau yn y Deganwy Narrows a gorffen ym Mhont Dolgarrog, tua 15km i ffwrdd.
Old Colwyn
Bydd Bae Colwyn yn croesawu Caersws i Arena 4 Crosses Construction yng ngêm cynghrair JD Cymru North.
Penmaenmawr
Mae’r daith ar hyd yr Uwchdir yn datgelu peth o hanes cudd y dirwedd uwchben Penmaenmawr sy’n gyforiog o rywogaethau bywyd gwyllt ac adar.
Llandudno
Ewch amdani ac ymunwch yn ysbryd y carnifal, wrth i Syrcas Gandeys, yr arweinwyr adloniant syrcas gwefreiddiol, heb eu hail, gyflwyno Carnifal Arbennig 2025 gyda balchder!