Canolfan Nofio Llandudno
Canolfan Chwaraeon/Hamdden
Ffôn: 0300 4569525

Am
Mae Canolfan Nofio Llandudno yn cynnig pwll cystadlu 25 metr, 8 lôn yn ogystal â phwll ymarfer 20 metr, 4 lôn. Mae'r ddau bwll yn cynnwys llawr symudol, sy'n caniatáu mwy o hyblygrwydd gyda sut y defnyddir y pwll.
Mae'r pwll nofio yn cynnig nifer amrywiol o sesiynau nofio i'r cyhoedd a rhaglen gwersi nofio helaeth ar gyfer pob oedran.
Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig campfa, ystafelloedd cyfarfod a dosbarthiadau ffitrwydd yn y pwll.