Clwb Bowlio'r Oval, Llandudno
Bowlio
Am
Mae Clwb Bowlio Llandudno yn The Oval, rhyw hanner milltir o ganol y dref a nesaf at y maes criced. Amgylchynir y grîn fowlio ei hun gan erddi ac mae ganddi seddi'r holl ffordd o gwmpas y terfyn allanol.
Rydym ar agor i’r cyhoedd ac mae gennym gyfleusterau da i bobl anabl ac iau a gallwn addysgu’r gêm bowlio grîn gefngrom i bobl o bob oedran. Mae siaciau, mat a phowlenni o wahanol feintiau ar gael fel rhan o'r pris archebu.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys clwb a ffreutur, lle gellir prynu lluniaeth, hufen iâ etc. Mae gan y clwb ei doiledau ei hun hefyd.
Bydd pob ymwelydd yn cael croeso cynnes iawn i’n grîn.
Archebwch trwy e-bost at: seclobc1906@gmail.com