Am
Beth am gael hwyl wrth ddarganfod mwy am Gonwy drwy ddilyn dau lwybr treftadaeth - fe allwch chi hyd yn oed gymryd rhan mewn helfa drysor!?
Gallwch brynu neu lawrlwytho’r teithiau - dewch ‘laen, dewch i ddarganfod mwy! Ydi Conwy’n cosi’ch chwilfrydedd chi? Ydych chi’n chwilio am weithgaredd anarferol i’w wneud yn yr awyr agored beth bynnag fo’r tywydd? Beth am ddilyn un o’n teithiau cerdded a mynd ar helfa drysor ar yr un pryd? Bydd yn mynd â chi heibio’r atyniadau mwyaf adnabyddus yn ogystal ag atyniadau anarferol sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud Conwy’n lle hudolus i’w archwilio!
Byddwch yn cael popeth - cyfarwyddiadau manwl, mapiau, cliwiau (gyda’r atebion ar y cefn), a phytiau difyr am hanes Conwy a'r bobl sydd wedi helpu i’w ffurfio.
Gallwch brynu neu lawrlwytho’r teithiau yn www.curiousabout.co.uk/conwy ac archwilio’r dref wrth eich pwysau.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Mapiau llwybrau ar gael
- Teithiau cerdded/teithiau beicio hunan-dywysedig
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Croesawgar i gŵn
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)