Am
Mae cwmni Sea Fishing Trips yng Nghonwy, Gogledd Cymru yn arbenigo mewn pysgota llongddrylliadau, pysgota môr dwfn a physgota creigresi. Bydd y cwch siartredig, Gwen-Paul-M, sydd ag offer electroneg morol llawn, yn mynd â chi i bysgota i unrhyw le o Ynys Môn i Fae Lerpwl ar deithiau cwch arbenigol i ddal pysgod fel y morlas, y penfras, môr-lysywen, draenog y môr a macrell. Gyda golygfeydd godidog o Barc Cenedlaethol Eryri ac arfordir Gogledd Cymru, bydd y sgiperiaid Carl Davies a Will Small yn sicrhau eich bod yn cael taith bysgota hynod lwyddiannus.