Am
Mae Mynydd Marian yn gefnen fechan o garreg galch sydd â golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad gerllaw, yn ogystal â mynyddoedd Eryri a Bryniau Clwyd yn y pellter. Mae planhigion y glaswelltir o ddiddordeb arbennig ac os dewch chi yma ar ddechrau’r haf (Mai /Mehefin) fe welwch chi arddangosfa hardd o degeirianau a blodau glaswelltir eraill. Mae Mynydd Marian wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei fod yn gartref i lawer o blanhigion ac anifeiliaid prin. Yma fe welwch chi blanhigion fel y cor-rosyn lledlwyd, pumnalen y gwanwyn, a’r pawrwelltau sy’n sefyll i fyny ac yn symud yn y gwynt, yn ogystal â’r glöyn byw glesyn serennog.
Ar ben Mynydd Marian mae Telegraph House a adeiladwyd yn 1841. Roedd y Telegraph House yn un o ddeuddeg o orsafoedd telegraff rhwng Caergybi a Lerpwl - a oedd yn trosglwyddo gwybodaeth i Ddociau Lerpwl am y llongau a oedd yn dynesu. Yr amser cyflymaf y bu i neges gael ei throsglwyddo a’i hateb yw 53 eiliad! Erbyn heddiw mae'r Telegraph House yn gartref preifat. Dydi Mynydd Marian ddim yn bell iawn o Lwybr Gogledd Cymru ac mae’n werth i chi fynd yno - yn arbennig i weld y golygfeydd godidog! Gyda maes parcio lle gallwch chi barcio am ddim, mae Mynydd Marian hefyd yn fan cychwyn da i fynd am dro ac archwilio’r cefn gwlad cyfagos.
Lawrlwythwch taflen Mynydd Marian i weld mapiau a llwybrau cerdded ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a hanes yr ardal hon.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Arlwyo
- Safle Picnic
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
TripAdvisor
Fideo
- Fideo Mynydd Marian