Am
Plasty Gradd I Rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r 19fed Ganrif mewn arddull pensaernïol Ewropeaidd canoloesol. Dechreuodd Ymddiriedolaeth Castell Gwrych ar y dasg aruthrol o achub y castell a’r ystâd dros 20 mlynedd yn ôl ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eu dyfodol hirdymor.
Efallai y byddwch yn adnabod Castell Gwrych fel cartref y rhaglen I'm A Celebrity... Get Me Out of Here! am ddwy flynedd yn olynol. Mae rhai elfennau o’r rhaglen wedi’u cadw yn y Castell i ymwelwyr eu mwynhau, er enghraifft y ciosg ffôn, y tŷ bach a’r gell carchar.
Ewch i’r wefan i archebu eich tocynnau.
Ein gweledigaeth yw sicrhau dyfodol byw a chynaliadwy ar gyfer Castell Gwrych a’r strwythurau adeiledig yn eu tiroedd gan eu gwneud yn ddeniadol, yn hygyrch ac yn llefydd ysbrydoledig i gynulleidfaoedd hen a newydd ymweld â nhw, eu cefnogi a’u mwynhau heddiw ac am flynyddoedd i ddod.
Mae gan Gastell Gwrych siop ar-lein a siop ar y safle sy’n gwerthu amrywiaeth o anrhegion a chofroddion I’m a Celebrity.
Pris a Awgrymir
Gweler y wefan am fanylion prisiau tocynnau.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau