Am
Mae’r traeth cerrig mân hyfryd hwn gyda’i bromenâd, yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol ar gyfer y promenâd, sydd hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. I fynd am dro hirach, dilynwch Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r traeth ac sy’n ymestyn ar hyd yr arfordir i’r dwyrain ac i’r gorllewin.
Gall beicwyr ddod â’u beic gyda hwy a defnyddio’r llwybr beicio sy’n ffurfio rhan o Rwydwaith Beicio Gogledd Cymru sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir o Bensarn i Landrillo-yn-Rhos.
Mae’r cyfleusterau sydd wedi’u lleoli ar hyd y promenâd yn cynnwys toiledau, siopau a chaffi tymhorol, yn ogystal â phwynt mynediad i’r traeth i bobl anabl.
Ym 1977, cafodd rhan o’r traeth ei neilltuo fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), i gydnabod yr ardal hon fel yr enghraifft orau o gefnen graean yn y wlad ac am ei hamrywiaeth eang a chyfoethog o blanhigion.
Mae nifer o’r rhywogaethau planhigion sy’n brin yng Ngogledd Cymru, megis Bresych y Môr, Canclwm a’r Bysedd Iâr Arforol, i’w gweld ar yr esgair graean. Ger y prif bwynt mynediad, ceir panel gwybodaeth sy’n disgrifio pwysigrwydd y gefnen graean hon a rhai o’r rhywogaethau planhigion y gellir eu gweld.
Mae’r gweithgareddau a gynhelir yma yn cynnwys syrffio a chanŵio.
Does dim achubwr bywydau ar y traeth.
A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!
Cŵn ar y traeth
Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.
Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.
Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.
I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored