Am
Cylchdaith yn arwain o ben Pas Sychnant gyda golygfeydd arbennig o Ddyffryn Conwy, mynyddoedd y Carneddau, pentir y Gogarth a’r arfordir.
Mae nifer o nodweddion archaeolegol yn y dirwedd o gwmpas - o gylchoedd cerrig i hafotai canoloesol - i’w gweld ar y daith.
Hyd y daith yw tua 4.5 milltir (7.2km). Byddwch yn cerdded ar lwybrau cerrig garw a llwybrau glaswellt, i fyny bryniau gyda llethrau cymedrol i serth.
Cychwynnwch y daith o faes parcio Canolfan Gadwraeth a Gwarchod Natur Pensychnant. Lluniaeth ar gael yn Nwygyfylchi, Penmaenmawr a Chonwy.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio