Nifer yr eitemau: 1545
, wrthi'n dangos 1181 i 1200.
Llandudno
Caffi ar brif stryd siopa Llandudno, Mostyn Street, tafliad carreg o’r promenâd a’r traeth.
Llandudno
Yn gweini te, coffi, prydau traddodiadol a dewis anferthol o gacennau cartref ar stryd fawr Llandudno.
Betws-y-Coed
Mae Seren Ventures ym mhentref prydferth Betws-y-Coed yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri a hwn yw prifddinas antur awyr agored Gogledd Cymru.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Penrhyn Bay
Pysgod a sglodion traddodiadol wedi'u coginio'n ffres i'w harchebu; pasteiod stêc a chwrw cartref i fynd gyda chi neu eu bwyta yno.
Kinmel Bay
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Bae Cinmel a’r ardaloedd cyfagos.
Llandudno Junction
Dysgu marchogaeth ceffyl mewn ysgol yng Nghonwy. Dan arweiniad tîm o hyfforddwyr BHS, archwiliwch eich angerdd am geffylau mewn cyfleusterau dan do ac awyr agored gwych.
Colwyn Bay
Ystâd wledig hardd sy’n gorchuddio 5000 erw o olygfeydd gorau Gogledd Cymru yw Ystâd Bodnant. Mae ein bythynnod gwyliau yn rhai hunanarlwyo ac yn agos at yr arfordir hyfryd.
Llandudno
Mae cŵn yn haeddu’r un moethusrwydd â phobl. Rydym yn canolbwyntio ar werthu cynnyrch nad yw’n niweidio’r blaned a bwydydd cwbl naturiol.
Rhos-on-Sea
Pethau casgladwy, anrhegion, gwydr, addurniadau, tlysau, canhwyllau - y cyfan ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos.
Conwy
Bwyd Bangladeshaidd wedi’i leoli yng nghanol tref Conwy.
Rhos-on-Sea
Ym mwyty Forte’s, rydyn ni’n falch o gynnig dau beth: profiad bwyta hamddenol a chyfeillgar a bwydlen eang sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Abergele
Arcêd Adloniant a chanolfan adloniant i deuluoedd ar y promenâd yn Abergele.
Betws-y-Coed
Croeso i North Wales Active. Rydym wedi ein lleoli ym Metws-y-Coed, Gogledd Cymru ac yn cynnig gweithgareddau antur preifat pwrpasol a chymysg bob dydd.
Colwyn Bay
Beth am ymweld â ni yn ein siop ym Mae Colwyn lle gallwch brynu ein bara, cacennau a brechdanau ffres.
Abergele
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Towyn a’r ardaloedd cyfagos.
Deganwy
Sefydlwyd Clwb Hwylio Conwy yn 1911, ac mae’n un o’r rhai hynaf yn yr ardal. Cynhelir rasys yn rheolaidd yn ystod yr haf ac mae’r clwb hefyd yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol gyda byrddau snwcer a phŵl, teithiau i chwarae golff a mwy.
Llandudno Junction
Coffi, te dail, cacennau ffres a llawer mwy ar gael i fynd o’n tŷ te a choffi yng Nghyffordd Llandudno.
Betws-y-Coed
Mae bwthyn hunan-arlwy glan yr afon Glan Dulyn ym Metws-y-Coed, Parc Cenedlaethol Eryri, yn ffinio ag Afon Llugwy, dim ond 4 munud ar droed o siopau, bwytai a bariau. Cysgu 4.
Llandudno
Mae map a chanllaw llwybr Alys yng Ngwlad Hud ar gael i'w prynu yn y Ganolfan Groeso. Archwiliwch Llandudno, a darganfyddwch beth yw’r cysylltiad ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwald Hud go iawn).