Nifer yr eitemau: 893
, wrthi'n dangos 361 i 380.
Penmaenmawr
Wedi’u lleoli mewn ardal drawiadol ar arfordir Gogledd Cymru nepell o’r A55. Gyda golygfeydd gwych o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae traeth Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thrigolion lleol.
Llandudno
Cyngerdd Teyrnged Taylor Swift. Sioe sydd wedi ennill gwobrau a sy’n talu teyrnged i un o brif artistiaid recordio cyfoes ein cyfnod ni.
Llandudno Junction
Bwyd â gwir flas, yn uniongyrchol gan y cynhyrchwyr. Gallwch grwydro o amgylch y stondinau i brynu eich llysiau ffres, cig lleol, cawsiau, jam, picl a llawer mwy!
Llandudno
Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth ochr un o afonydd mwyaf Cymru, Afon Conwy, wedyn yn dilyn glannau’r Afon Lledr wyllt, wedi iddi uno ag Afon Conwy ym Metws-y-Coed.
Conwy
Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares, Harlech ac yma yng Nghonwy, mae’r muriau trefol hyn ymhlith y ceinaf a’r mwyaf cyflawn yn Ewrop.
Penmaenmawr
Taith o tua 10 milltir (16km) gyda golygfeydd hardd sy’n mynd o Benmaenmawr i Gonwy ac yn ôl.
Llandudno
Yn dilyn eu taith ‘Refuelled!’ yn 2023, a werthodd allan, mae Mike and the Mechanics yn dychwelyd ar gyfer taith ‘Looking Back - Living The Years 2025’.
Llandudno Junction
Ydych chi’n chwilio am ffordd wych o gychwyn eich penwythnos? Ymunwch â’n harweinwyr gwybodus gan ddarganfod bywyd gwyllt rhyfeddol RSPB Conwy.
Llandudno
Mae’r sioe ddiweddaraf, John Barrowman, Laid Bare yn ddiwyro a heb ei sensro am ei awch at fywyd a’i gariad dwfn at gân a stori.
Llandudno Junction
Mae ein clwb misol ar gyfer y rhai sy’n caru natur yn ôl! Y mis hwn, ymunwch â ni am gyrch blodau gwyllt.
Conwy
Cynhelir yr ŵyl flynyddol ar y dyfroedd yng Nghonwy dros ddau benwythnos ym mis Gorffennaf 2025.
Betws-y-Coed
Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir Conwy Falls Café, a gynlluniwyd yn y 1930au gan y pensaer adnabyddus lleol Clough Williams-Ellis. Gweinir byrbrydau a phrydau blasus.
Betws-y-Coed
Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n llifo drwy hafn gul nes creu rhaeadr arbennig iawn gyda choed ffawydd, bythwyrdd a bedw yn y cefndir.
Llandudno
Bydd The Night Sky Show yn mynd a chi ar siwrnai anhygoel ar draws y cosmos o’n gardd gefn wybrennol.
Trefriw
Mae Gŵyl Gerdded arobryn Trefriw yn dychwelyd! Darganfyddwch olygfeydd, hanes naturiol a straeon dynol Eryri ar deithiau cerdded a phrofiadau gwahanol.
Conwy
Gardd bywyd gwyllt gyda bordorau o flodau amrywiol wedi’u hamgylchynu gan lwyni yn eu llawn dwf, rhododendrons mawr, coedwigoedd hynafol a Fictoraidd.
Llandudno
Mae Oriel Ffin y Parc yn cynnal arddangosfeydd sy’n newid gan rai o’r artistiaid gorau sy’n gweithio yng Nghymru, ochr yn ochr â’r gwaith celf cyfoes gorau o’r 20fed Ganrif.
Llandudno
Mae RED Entertainment, Cuffe & Taylor a Live Nation yn cyflwyno'r hudolus Miss Americana - Teyrnged i Taylor Swift.
Sgôr Teithwyr TripAdvisor
1822 adolygiadauPenmachno
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad.
Sgôr Teithwyr TripAdvisor
1725 adolygiadauLlandudno
Mae Gwesty’r Imperial sydd wedi ennill gwobrau, gwesty Pedair Seren mwyaf Llandudno, yn sicrhau ceinder a rhagoriaeth a golygfeydd trawiadol ar draws y bae o'i leoliad canolog ar y Promenâd.