Am
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda phromenâd cul ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Wrth ymyl y promenâd mae Gwarchodfa Natur Twyni Cinmel, sy’n gynefin twyni bras. A welwch chi’r celyn y môr pigog, y tegeirianau, yr ieir bach yr haf a’r madfallod? Welwch chi’r ehedyddion yn nythu ar y ddaear?
Mae parcio am ddim ar gael i dros 100 o geir.
Mae'n lle gwych i wylio byd natur a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel nofio, canŵio môr a hwylfyrddio, yn ogystal â throchi’ch traed yn y dŵr!
Fe allwch chi weld morloi llwyd, adar y môr ac adar hirgoes o bromenâd Bae Cinmel.
Does dim achubwr bywydau ar y traeth.
A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!
Cŵn ar y traeth
Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.
Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.
Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.
I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio