Am
Yn gryno. Nid yw teithio drwy amser erioed wedi bod yn haws.
Nid hap a damwain yw presenoldeb tywyll, mewnblyg Castell Conwy.
Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y bwriad oedd dominyddu a brawychu - ac mae’n dal i wneud ei waith, gan gystadlu â gorwelion garw Eryri ac ennill y frwydr am ein sylw.
A oes castell arall yng Nghymru sy'n dwyn i gof awyrgylch yr oesoedd canol cystal?
Nid ydym yn credu bod.. Ac rydyn ni'n meddwl y byddwch chi'n cytuno pan fyddwch chi'n dringo i fyny at y tyrau sy'n ymddangos fel pe baent yn tarddu'n naturiol o'r graig dywyll y cawsant eu hadeiladu arnynt.
Mae wyth i gyd, sy’n meddu ar olygfeydd syfrdanol ar draws aber afon Conwy ac i lawr i Gonwy ei hun, wedi'u cuddio fel tref deganau yng nghysgod y gaer.
Mae'r un mor werth chweil wrth i chi edrych y tu mewn i esgyrn y gaer ei hun.
Ar wahân i absenoldeb toeau, mae'r tu mewn yn gyfan i raddau helaeth, yn enwedig y Neuadd Fawr fawreddog 40m/130 troedfedd ac Ystafelloedd y Brenin.
Nid yw’n syndod bod Castell Conwy yn un o gestyll mawr Ewrop yr Oesoedd Canol.
Mae’r gaer yn Safle Treftadaeth y Byd, ynghyd â gogoniant hanesyddol eithriadol arall Conwy - ei chylch tri chwarter milltir o furiau’r dref, sy’n amgáu’r drefgordd wreiddiol o strydoedd cul yn llwyr.
Wedi'u hamddiffyn gan ddim llai na 21 tŵr a thri phorth maent - fel y castell - ymhlith y gorau o'u math yn Ewrop.
A'r newyddion da yw y gallwch chi ddal i ddilyn yn ôl traed y gwarcheidwaid o'r blaen, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r wal ar agor i'r cyhoedd.
Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
- Yn derbyn partïon bysiau
Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall
- Deunydd Argraffedig Cymraeg
Dulliau Talu
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol