Am
Mae rhan Sir Conwy o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi ar hyd yr arfordir. Byddwch yn beicio drwy’r trefi canlynol:
• Y Rhyl
• Bae Cinmel
• Abergele
• Bae Colwyn
• Llandrillo-yn-Rhos
• Llandudno
• Conwy
• Penmaenmawr
• Llanfairfechan.
Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn mynd â chi oddi ar y ffordd fawr, gyda rhan fer ar y ffordd yng Nghonwy cyn i chi droi am lan y môr. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi ar y ffordd ac i’r gorllewin ar hyd yr arfordir drwy drefi glan y môr Penmaenmawr a Llanfairfechan.
Ar hyd y llwybr sy’n mynd â chi i Gonwy drwy Landudno, fe gewch chi olygfeydd godidog o Afon Conwy a Chastell Conwy. Mae yna hefyd lwybr cyswllt i Warchodfa Natur RSPB Conwy yng Nghyffordd Llandudno.
Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr sydd oddi ar y ffordd fawr hefyd yn addas i gerddwyr a phobl sy'n defnyddio cadair olwyn. Ac, os ydych chi’n teimlo’n llwglyd neu’n sychedig, mae yna ddigon o lefydd yn gwerthu lluniaeth ar hyd y llwybr.
Pan gyrhaeddwch chi dref Llanfairfechan, mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi i’r gorllewin i ddinas Bangor.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Mewn tref/canol dinas
Suitability
- Teuluoedd