Am
Mae ‘I fyny i’r Llyn’ yn daith feicio eithaf hir a mynyddig, tua 42 cilomedr o hyd, sy’n ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a beicwyr canolradd ac unrhyw un sydd am brofi ei stamina heb ormod o waith technegol. Mae’r llwybr yn croesi Coedwig Clocaenog ac yn mynd ymlaen i Lyn Brenig gan fynd o amgylch glannau’r llyn mawr a hardd hwn. Mae Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yn lle da i fwynhau seibiant a lluniaeth yn y caffi cyn dychwelyd i’r goedwig. Mae’r daith yn dechrau ym mhentref Cyffylliog.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad