Nifer yr eitemau: 1079
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Llandudno
Mae’r pedwar rhandy wedi derbyn sgôr 4 seren gan Croeso Cymru ac yn cynnig llety cyfforddus, glân a hwylus o fewn tafliad carreg i draeth y Gogledd a Phen Morfa.
Betws-y-Coed
Mae’n wir, i dderbyn y cyngor gorau holwch bobl leol! Ond fe allwn ni fynd gam gymhellech na hynny, mae’r cyngor y cewch chi gan ein Canolfannau Croeso ar lefydd i fynd a phethau i’w gwneud hefyd yn cynnwys ystod o wasanaethau eraill.
Conwy
Angen cymorth i archebu llety, cyngor i gynllunio eich diwrnod, danteithion blasus neu anrheg a wnaed yn lleol ar gyfer rhywun arbennig? Dewch draw i Ganolfan Groeso Conwy.
Llandudno
Angen helpu i archebu llety, cyngor i gynllunio eich diwrnod, rhywbeth blasus i’w fwyta neu rodd wedi’i gwneud yn lleol ar gyfer y person arbennig hwnnw? Galwch heibio Canolfan Groeso Llandudno yng Nghanolfan Fictoria.
Llandudno
Llety gwely a brecwast coeth, tawel gyda naw ystafell wely ag en-suite, pob un â golygfeydd godidog o fae prydferth Llandudno.
Llanfairfechan
Dwy fflat ddeulawr hunanddarpar fodern ar lan y môr. Lle i 2 neu 4 gysgu - gellir eu llogi’n unigol neu fel pâr.
Abergele
Croeso i Fwthyn Gwyliau Henblas. Wedi ei leoli uwch hen dref farchnad Abergele a’i amgylchynu gan gaeau a choetiroedd, mae Bwthyn Gwyliau Henblas yn y lleoliad perffaith ar gyfer archwilio’r ardal.
Llandudno
Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd a phromenâd llydan yng nghysgod penrhyn godidog Pen y Gogarth.
Conwy
Agorwyd Paysanne yn 1988 gan Bob a Barbara Ross, pâr o Ffrainc-garwyr yn arbenigo mewn coginio Ffrengig.
Llandudno
Gwesty bychan ysblennydd ar lan y môr yn Llandudno - cyrchfan arfordirol Fictoraidd. Chwe ystafell wely mawr a moethus gyda golygfeydd godidog dros y môr.
Conwy
Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a banciau cregyn gleision helaeth Bae Conwy. Mae’n lleoliad da ar gyfer pysgota, mae yma farina ac mae cwrs golff gerllaw.
Trefriw
Ewch i’n siop lle rydym yn gwerthu carthenni, blancedi teithio a brethyn sy’n cael eu cynhyrchu ar y safle yn defnyddio peiriannau sydd dros hanner cant o flynyddoedd oed.
Penmaenmawr
Traeth tywod hir gyda phromenâd sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar. O Benmaenmawr fe welwch Afon Menai a’i holl gyfleusterau sy’n ei wneud yn gyrchfan boblogaidd i deuluoedd.
Abergele
Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth sy’n cysylltu gyda Bae Colwyn i’r gorllewin.
Llanrwst
Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol Llanrwst.
Llandudno
This hotel in Llandudno is set on a lovely quiet road populated with individual large Victorian properties, at the foot of The Great Orme.
Kinmel Bay
Mae’r eiddo cysurus 5 ystafell wely yma wedi ei leoli mewn ffordd bengaead dawel gyda mynediad i harbwr hardd a thraethau a thwyni tywod.
Betws-y-Coed
Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae arddelw Gruffydd ap Dafydd Goch yn yr eglwys, bedyddfaen Normanaidd a nifer o nodweddion diddorol eraill.
Llandudno
Mae Llwybr Tref Llandudno yn cynnwys 15 lleoliad, o’r promenâd i’r pier, o strydoedd siopa i draethau euraid, o erddi i bentir y Gogarth.