Am
Mae traeth tywod hir Llanfairfechan pan mae’r llanw’n isel yn hyfryd ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Mae ganddo olygfeydd gwych o Ynys Môn, Afon Menai a Phen y Gogarth. Mae’r traeth yn boblogaidd gydag ymdrochwyr ac mae ardal bicnic laswelltog helaeth gydag ardal chwarae i blant a llyn hwylio cychod model. Mae’r traeth ger Llwybr Arfordir Gogledd Cymru a Gwarchodfa Natur Traeth Lafan, sy’n boblogaidd iawn gyda gwylwyr adar.
Mae’r traeth hwn yn wych ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys nofio, syrffio, canŵio môr, hwylio (mae yna glwb hwylio yma), bordhwylio a physgota. Mae yna bromenâd ar gyfer cerddwyr ac mae Parc Cenedlaethol Eryri gerllaw.
Mae yna leoedd parcio am ddim i fwy na 100 o geir, a thoiledau (yn cynnwys toiled i bobl anabl).
Does dim achubwr bywydau ar y traeth.
A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!
Cŵn ar y traeth
Gall dod â’ch ci i’r traeth fod yn uchafbwynt mawr i chi a’ch anifeiliaid anwes. Rydym ni’n eich annog i sicrhau bod eich ci dan reolaeth drwy’r amser, ar ac oddi ar y tennyn, a bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar rai o’n traethau.
Yn gyffredinol, mae traethau’n gwahardd cŵn (heb law am gŵn tywys cofrestredig a chŵn cymorth wedi’u hyfforddi) rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae rhai’n gwahardd cŵn drwy’r flwyddyn ac eraill heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl i fwynhau am dro ar lan y môr gyda’ch anifeiliaid anwes.
Rydym ni’n gofyn i chi godi baw eich ci bob tro gan ei bod yn drosedd peidio â’i lanhau ar unwaith.
I gael mwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ymhob traeth, gweler wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio